Fe fydd Llywodraeth Cymru’n gwario £65m yn ystod y chwe mis nesaf i wella’r rheilffyrdd er mwyn helpu gweithwyr allweddol sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Fe ddaw yn dilyn cytundeb tymor byr gwerth £40m ym mis Mawrth.

Mae’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ryw 95% yn llai na’r un cyfnod y llynedd, wrth i bobol barhau i aros gartref neu’n lleol yn sgil y feirws.

Ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn helpu gweithwyr allweddol i deithio i’r gwaith, gan sicrhau bod modd i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd deithio’n rhad ac am ddim.

‘Peidiwch â theithio oni bai bod rhaid’

Yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, ddylai neb deithio oni bai bod rhaid.

“Mae hyn wedi bod yn hanfodol i iechyd ein gwlad, ac mae hi ond yn iawn ein bod ni’n symud ymlaen yn ofalus cyn annog niferoedd uwch o deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai.

“Mae angen i ni weithredu, felly, i sicrhau bod gyda ni rwydwaith rheilffyrdd effeithiol yn y tymor hir.

“Bydd ein harian yn helpu ein gwasanaeth rheilffyrdd i ymdopi â’r colledion refeniw anochel sy’n deillio o’r coronafeirws.

“Yn y tymor hir, bydd hyn yn sicrhau bod prosiectau isadeledd allweddol megis systemau Metro yn gallu cael eu cyflawni.

“Cyn hynny, fe fydd hefyd yn golygu y gall ein rhwydwaith rheilffyrdd barhau i alluogi teithio hanfodol a helpu gweithwyr allweddol i gyrraedd y gwaith, gan gynnwys teithio rhad ac am ddim i staff y Gwasanaeth Iechyd.

“Byddwn yn parhau i weithio tuag at gyflawni’r rhwydwaith rheilffyrdd cryfaf posib yn y tymor hir, fel rhan o’n system drafnidiaeth ehangach.”