Mae swyddog cyfathrebu sy’n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru ers rhai wythnosau wedi cyhoeddi blog yn dweud ei fod e’n “Indy Furious”, wrth ddatgan  ei gefnogaeth i’r mudiad annibyniaeth Yes Cymru.

Yn ôl Huw Cook, cafodd ei ddenu at y mudiad yn sgil yr ymateb gwleidyddol i’r pandemig coronafeirws.

Mae wedi postio dolen i erthygl blog ar ei dudalen Twitter, gan ddweud “Dyma pam fy mod i, o’r diwedd, wedi mynd o fod yn #IndyCurious i #IndyFurious; a pham, i fi, fod #IndyWales yn darlunio gweledigaeth lawer mwy gobeithiol ar gyfer y dyfodol.”

Daw’r sylwadau yn ei erthygl ddiweddaraf o dan y teitl ‘From Indy Curious to Indy Furious’.

‘Indy Curious’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio gan y rhai sydd yn ystyried cefnogi annibyniaeth, ond sydd heb eu darbwyllo’n llwyr.

‘Dw i wedi cael trafferth ysgrifennu’n ddiweddar’

Mae Huw Cook yn dechrau trwy ddweud iddo “gael trafferth ysgrifennu’n ddiweddar” a hynny, meddai, am fod “gweithio wrth ymateb i’r pandemig Covid-19 wedi cymryd drosodd i gyd, yn flinderus, yn emosiynol ac yn gorfforol ac yn achos ypsetio”.

Mae’n disgrifio’r profiad o “eistedd wrth ddesg yn ceisio gwneud fy ngorau i bobol Cymru, yn hyrwyddo lles a cheisio sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol yn cyrraedd y bobol sydd eu hangen fwyaf, mewn modd y gallan nhw uniaethu â nhw a fel eu bod yn hygyrch”.

Mae’n dweud bod y profiad o ysgrifennu fel arfer yn “rhyddhad” ac yn “gyfle i fyfyrio ar fy ngwaith yng nghyd-destun ehangach y byd o’m cwmpas”.

‘Newyddiadurwyr di-egwyddor a gweinidogion anwybodus’

Mae’n dweud ymhellach iddo gael gwaith yn ddiweddar “goddef gweithredoedd y sawl sydd â’r allwedd, yn y pen draw, i ddatgloi llwyddiant y byd o’m cwmpas”.

“Dw i wedi’i chael hi’n anodd bod yn dyst i danseilio’r negeseuon iechyd dw i’n ceisio’u hydrwyddo o du newyddiadurwyr di-egwyddor, gweinidogion anwybodus a nifer o’r cyhoedd ehangach maen nhw’n eu cynrychioli,” meddai.

“Dw i wedi’i chael hi’n anodd gwylio rhagrith llywodraeth ganolog sydd wedi mynd ati i danseilio a chwestiynu’r rôl bwysig mae polisi iechyd datganoledig yn ei chwarae wrth hwyluso mesurau sy’n diwallu anghenion penodol y genedl dan sylw.

“Ac alla i ddim hyd yn oed ddechrau gyda saga Cummings oherwydd does yna ddim geiriau i ddisgrifio pa mor niweidiol ac annealladwy yw e.”

‘Y criw mwyf analluog o ffyliaid yn bradychu pobol Cymru’

 A dyna ddod at ei brif bwynt, meddai.

“Pan dw i’n dweud fy mod i wedi’i chael hi’n anodd ysgrifennu, yr hyn dw i’n ei olygu yw fy mod i wedi ei chael hi’n anodd cyfleu mewn geiriau y teimladau o fod yn grac, yn gwbl anghrediniol ac yn dorcalonnus o rwystredig wrth wylio, efallai, y criw mwyaf analluog o ffyliaid yn bradychu pobol Cymru, gan roi eu bywydau mewn perygl, a gwneud hwyl am ben y profiadau negyddol rydyn ni wedi gorfod eu goddef fel cenedl dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’n mynd yn ei flaen wedyn i egluro pam ei fod e wedi troi ei sylw at Yes Cymru.

“Ar ôl dod yn fwyfwy chwilfrydig am annibyniaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, i fi, mae Cymru annibynnol yn cynnig cyfle i adeiladu Cymru fyd-eang,” meddai.

“Cymru flaengar â lles wrth ei chalon a llwybr tuag at lewyrch wrth draed pob un o’i thrigolion.

“Gallai Cymru annibynnol, yn rhydd rhag hualau llymder wedi’i orfodi gan San Steffan, geisio terfyn ar dlodi o fewn cenhedlaeth, adeiladu cymunedau gwydn a chryf sydd wedi’u porthi gan economi sylfaenol sy’n gweithio iddyn nhw ac yn bwysicaf oll, mesur ein hunain nid ar yr hyn rydyn ni’n parhau i’w gynhyrchu fel cenedl ond pa mor dda, hapus a grymus ydyn ni fel pobol.

“Gallai Cymru annibynnol amgyffred yn llwyr y dechrau roesom i ni ein hunain drwy gyflwyno’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf yn y byd; a defnyddio’r ffocws hwnnw, yr ymrwymiad hwnnw i adeiladu, mewn modd cynaladwy, genedl unedig i weithredu, gwarchod ac ysbrydoli pobol Cymru i fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain a sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfle i wneud hynny.”

‘Y Deyrnas nad yw’n Unedig’

Mae’n dweud na fydd yr hyn mae’n ei gynnig uchod yn bosib tra bod Cymru’n rhan o’r “Deyrnas nad yw’n Unedig”.

“Fyddwn ni ddim yn llewyrchus, fydd gennym ni ddim rhyddid go iawn a fyddwn ni ddim yn erbyn yr ecwiti i fod y mwyaf iach, yr hapusaf na’r mwyaf diogel y gallwn fod,” meddai.

Tra ei fod yn cydnabod y dadleuon yn erbyn annibyniaeth, mae’n dweud bod cynifer o bobol sydd wedi profi y gall Cymru fod yn annibynnol – yn economaidd, i beidio â dibynnu ar San Steffan ac i “beidio â threulio blynyddoedd yn dadlau am fynediad i arian ar gyfer heol hyll”.

Mae’n dweud y byddai Cymru annibynnol yn cynnig “rhyddid i ddatblygu economi unigryw sy’n gweithio i Gymru”.

Byw mewn gobaith?

Ond ai delfryd yw ei weledigaeth yw ei gwestiwn yn niwedd yr erthygl.

“Efallai bydd rhai yn darllen hwn ac yn meddwl ei fod yn lol, yn llawn nonsens gobeithiol ond a bod yn gwbl onest, does dim rhaid iddo fod,” meddai.

“Mae bod yng ngofal ein cyfreithiau ein hunain, ein harian ein hunain, ein ffordd o fyw ein hunain, yn cicio drws posibiliadau ar agor led y pen.

“Gallem gyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod, oriau gwaith mwy hyblyg, Incwm Sylfaenol Cynhwysol a sicrhau y gall pawb gael yr hawl i gartref diogel a bwyd.

“Ydy, mae’r cyfan yn obeithiol ond yr hyn sydd ei angen arnom ar hyn o bryd yw gobaith.

“Yr unig fath o obaith dw i wedi’i weld yn ystod yr argyfwng hwn yw hynny wrth feddwl am Gymru annibynnol nad yw bellach yn gaeth, wedi’i dal yn ôl na’i sarhau gan beiriant San Steffan.”

“Peidiwch â diystyru” Cymru annibynnol yw ei neges yn niwedd yr erthygl.

“Beth bynnag yw’r rheswm, p’un a yw’n ymdeimlad o berthyn yn wleidyddol, pryder, diffyg ymwybyddiaeth neu hyd yn oed os ydych chi’n hapus gyda’r ffordd mae pethau, gwahoddaf chi i ddarllen ychydig yn fwy amdano fe.

“Ewch ar hyd y trywydd annibyniaeth a gadewch i ni weld a gewch chi weledigaeth o Dir na nÓg Cymreig.

“A phan fyddwch chi wedi gwneud hynny, rhowch eich holl gardiau ar y bwrdd a gofynnwch pa fath o ddyfodol rydych chi ei eisiau, a pha drywydd sydd fwyaf tebygol o fynd â chi yno.

“Fydd e ddim yn digwydd dros nos ac oes, mae tipyn i’w drafod, i’w gynllunio a meddwl amdano fe o hyd.

“Ond gallwn ni wneud mwy na gwneud i Gymru annibynnol weithio.

“Gallwn ni wneud Cymru annibynnol lewyrchus a gwneud i’w phobol fod yn llewyrchus fel erioed o’r blaen.”