Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ffafrio pobol sy’n seiclo wrth gyhoeddi’r newidiadau diweddaraf i gyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae modd bellach i bobol ddefnyddio “ymarfer corff fel modd o deithio wrth gadw’n heini”, gan gynnwys mynd allan i gerdded, rhedeg neu seiclo, ar yr amod fod y weithgaredd yn dechrau ac yn gorffen yn y cartref.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi bod yn cwyno bod y cyfyngiadau newydd, sy’n nodi bod modd i bobol deithio hyd at bum milltir i weld pobol eraill y tu allan i’w cylch teuluol agos, yn gwahaniaethu yn erbyn pobol yng nghefn gwlad.

‘Cam da ymlaen… ond hollol bisar’

Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod fod y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru’n “gam da ymlaen”, maen nhw’n dweud bod y rheolau sy’n ffafrio seiclwyr “yn hollol bisar”.

“Mae caniatáu taith feics 40 milltir yn gam da ymlaen, ond mae gwneud hynny wrth fethu â chaniatáu gweithgareddau awyr agored diogel eraill yn edrych yn hollol bisar,” meddai Darren Millar, llefarydd iechyd y blaid.

“Gallwch chi seiclo pellterau mawr yma erbyn hyn, ond mae’n ymddangos mai Cymru yw’r unig wlad yng ngorllewin Ewrop lle nad oes modd i chi chwarae tenis, chwaraeon sy’n cynnwys dau berson sydd, yn ei hanfod, yn golygu bod pobol yn cadw pellter o fwy na dwy fetr rhyngddyn nhw.

“Mae’n ymddangos nad oes unrhyw wyddoniaeth o gwbl y tu ôl i rai o ddewisiadau Gweinidogion Cymru, sy’n peri’r cwestiwn pam fod rhai hobïau a gweithgareddau’n cael eu ffafrio ar draul eraill.

“Mae newid y polisi ar gyfer seiclwyr yn unig mor greulon.

“Gallwch chi seiclo 40 milltir erbyn hyn, ond allwch chi ddim ymweld â theulu a ffrindiau os ydyn nhw’n byw mwy na phum milltir i ffwrdd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddileu’r rheol pum milltir greulon a dechrau meddwl am anghenion pawb ac nid dim ond y rhai dethol.”