Mae Mark Drakeford wedi cydnabod y bydd yn rhaid i bobol “ddehongli” ei ‘reol pum milltir’ ar sail eu “sefyllfa leol hwythau”.

Brynhawn heddiw cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio o ddydd Llun ymlaen.

A dan y drefn newydd bydd modd i bobol o ddau gartref gwahanol gwrdd â’i gilydd – cyn belled â’u bod mewn man agored ac yn cadw at y rheol ‘dau fetr ar wahân’, a’u bod yn byw o fewn pum milltir i’w gilydd.

Mae rhai wedi beirniadu’r ‘rheol pum milltir’ gan ddadlau ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn cymunedau gwledig lle mae pawb ar wasgar ac angen gyrru tros bum milltir at y siop agosaf.

Cynigodd Mark Drakeford ei farn ar y mater y prynhawn yma.

“Rydym yn dweud yn glir y bydd angen i bobol ddehongli [y rheol] ar sail eu sefyllfa leol hwythau,” meddai mewn cynhadledd i’r Wasg.

“Os oes yn rhaid i chi, ar hyn o bryd, deithio’n bellach na phum milltir er mwyn cael gafael ar fwyd a meddyginiaeth, bydd modd i chi wneud hynny dan y rheolau [newydd] hefyd.

“Ond rydym yn gofyn bod pobol yn meddwl yn ddwys wrth ffurfio dehongliadau eu hunain.”

Rheol greulon

Mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb i’r gynhadledd yn hallt, ac mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Darren Millar, wedi galw’r ‘rheol pum milltir’ yn un “greulon”.

“I ddechrau roeddem yn cael gwybod ein bod yn cael ymweld â phobol o fewn pum milltir,” meddai,  “yna roeddem yn cael gwybod mai ‘egwyddor fras’ oedd hyn, a bod angen ‘dehongli’.

“Buaswn yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru pe bai’n mynd i’r afael ag anghenion pobol Cymru.

“Fodd bynnag, rheol greulon yw hon sy’n ddryslyd a heb drugaredd. Ac nid yw’n cydnabod synnwyr cyffredin di-lol pobol Cymru.”

Newidiadau o ddydd Llun ‘mlaen

Bydd y newidiadau i’r rheolau yn dod i rym ddydd Llun ac yn galluogi:

  • I bobol o ddau gartref gwrdd mewn man cyhoeddus – neu ardd – os ydyn nhw’n byw o fewn pum milltir i’w gilydd;
  • I gyplau briodi – neu gynnal seremoni partneriaeth sifil – os oes un o’r partneriaid â salwch angheuol.

Bydd mannau prydferth a safleoedd twristaidd yn parhau ar gau.

Camau posib yn y dyfodol

Bydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu unwaith eto ymhen tair wythnos, ar Fehefin 18, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud yr isod bryd hynny:

  • Ailagor siopau sydd ddim yn hanfodol;
  • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus;
  • Caniatáu pobol i symud tŷ;
  • Ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored ac amgueddfeydd awyr agored;
  • Ailagor cyfleusterau i athletwyr elît sydd ddim yn broffesiynol.