Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi enillydd gwobr ‘Prif Lenor’ ei heisteddfod eleni.

Myfyriwr o ardal Dolgellau yw Mared Fflur Jones yw, a gwnaeth ei gwaith ennyn canmoliaeth fawr gan y beirniad, Manon Steffan Ros.

“Mae’r awdur yn gyffrous ac yn grefftus, gan ddefnyddio arddull lafar, naturiol a chynildeb clyfar i ddal sylw’r darllenydd,” meddai mewn datganiad.

“Mae’n plethu stori syml ond dirdynnol, ac yn creu darlun yn y meddwl sy’n gwbl real, yn gwbl glir, yn gwbl deimladwy ac yn llawn cariad a gwewyr.”

Yn ail oedd Osian Wynn Davies o Gaerdydd ac yn drydydd  Osian Wyn Owen o Felinheli.

Pwy yw’r enillydd?

Mae Mared Fflur Jones yn ferch fferm ac mi fynychodd mynychodd Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain ac Ysgol y Gader, Dolgellau.

Wedi hynny symudodd ymlaen i’r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth; a bellach mae hi ar fin cwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Yn y gorffennol mae wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd.

Mae’n chwarae rygbi, yn canu a pherfformio ac yn treulio’r cyfnod hwn yn helpu ar y fferm, yn darllen ac ymgymryd ag ambell brosiect DIY.

Eisteddfod T

Oherwydd yr argyfwng covid-19, mae eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei gynnal ar-lein dan yr enw Eisteddfod T.