Lansiwyd platfform newydd ym mis Mawrth gyda’r nod o adlewyrchu creadigrwydd y gymuned gelfyddydol yng Nghymru.

Mae AM, sydd yn blatfform i ddathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru,  wedi gweld tŵf anferth yn nifer y cynnwys a’r gynulleidfa yn y deg wythnos ers ei lansio.

Mae’r platfform yma, sydd yn rhad ac am ddim i’w fwynhau ar ffurf gwefan neu ap, wedi ei rannu i bump categori o sianelau ar draws y platfform

  • Gwrando
  • Gwylio
  • Geiriau
  • Gwyliau
  • Gigs

Mae’r sianelau wedi tyfu o 70% dros yr un-ar-ddeg wythnos a bellach mae 150 o sianelau yn rhannu eu gwaith.

Yn ôl AM, mae’r gynulleidfa wedi cynyddu i dros 30,000 o ddefnyddwyr gyda dros 5000 o bobl wedi lawrlwytho yr ap a thros 11,000 o ddefnyddwyr misol cyson.

Cynnwys

Yn ystod yr wythnos gyntaf rhannwyd ffilm gan y Manic Street Preachers wedi ei chyfarwyddo gan Kieran Evans,  yn ogystal â ffrwd fyw o ddau gyngerdd Valley Aid o’r Rhondda i godi arian i’r rhai â ddioddefodd o ganlyniad i’r llifogydd yn y cymoedd.

Mae cwmnïau recordiau, canolfannau a hyrwyddwyr wedi bod yn creu sesiynau ‘cartref’ gan amrywiol artistiaid yn ogystal â fideos hyrwyddo recordiau newydd a phigion o’u rhaglenni artistig diweddar.

Mae artistiaid ifanc – yn artistiaid gweledol, beirdd, llenorion neu wneuthurwyr ffilm a phodlediau – wedi defnyddio eu sianelau ar AM i arddangos a hyrwyddo gwaith i gynulleidfa ehangach.

Mae pigion wythnosol cynnwys Eisteddfod Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei weld a’i archifo ar AM tra penderfynodd Gwyl Animeiddio Caerdydd â ohiriwyd yn ddiweddar, ddarlledu cynnwys yr ŵyl ar AM.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae AM wedi cynnwys themâu penodol yn hyrwyddo agweddau amrywiol o ddiwylliant Cymreig fel cylchgronau print, celf gan artistiaid ifanc y mae modd eu prynu ar lein a gweithgaredd y cwmnïau theatr.

‘O fudd i bawb’

“Mae gweld cymaint o sianelau a chymaint o gynnwys gwych yn digwydd ar AM – hyd yn oed yn y cyfnod anodd tu hwnt yma – yn dysteb i greadigrwydd a phendantrwydd pawb sydd yn creu yn ddiwylliannol yng Nghymru” meddai  Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST, y cwmni sydd wedi creu AM.

“Ein gobaith yw bod twf AM o fudd i bawb gan ein bod yn creu cynulleidfa newydd: cynulleidfa oedd ynghynt yn gynulleidfaoedd unigol i ddrama, llenyddiaeth, cerddoriaeth ac ati ond sydd bellach yn mwynhau a darganfod rhannau newydd o ddiwylliant creadigol dwyieithog Cymru drwy wylio AM.

“Mae’n bosib eich bod wedi mynd ar AM i fwynhau drama fyw gan Theatr Genedlaethol Cymru ond yna wedi darganfod fideo newydd gan fand newydd neu darn o waith celf gan artist ifanc newydd. Dyna oedd y nod: datblygu cynulleidfa ehangach i greadigrwydd Cymraeg beth bynnag ei ffurf.”

‘Ffurfiau arloesol’

“Mae wedi bod yn grêt i weithio gyda AM ar ein cyfres Network a darlleniadau dramau” meddai Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

“ Mewn cyfnod lle roedd rhaid i ni ymgeisio i wneud pethau newydd drwy ddulliau newydd, mae AM wedi profi i fod yn bartner cyflym a hyblyg yn ymateb a gallu datrys problemau ac addasu i brosiectau sydd wedi esblygu yn gyflym.

“Mae o werth anferthol i Gymru bod gennym blatfform â all weithio mewn ffurfiau arloesol ar draws gwahanol gyfryngau gan gysylltu artistiaid â chynulleidfaoedd tra mae’r byd ym parhau i symud yn gyflym o dan ein traed.”

“Mae AM wedi rhoi’r cyfle i mi allu gweld gwaith diweddaraf gan gymaint o allfeydd creadigol i gyd mewn un lle, a lleoli gwaith fy hun fel artist ifanc yng nghanol hynny trwy fy sianel” yn ôl Erin Thomas – artist gweledol ifanc o Flaenau Ffestiniog.

“Dwi’n teimlo fod y platfform yn le cyffrous a hawdd i gael ysbrydoliaeth a chadw ar ben popeth yn y byd creadigol yng Nghymru.”