Wrth gyhoeddi’r gyllideb atodol heddiw (dydd Mercher, Mai 27), mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i wario mwy na £2.4 biliwn ar argyfwng y coronafeirws.

Mae’r ymdrech ariannol yma’n darparu mwy na £750m i:

  • gyllido ymateb y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau cyhoeddus
  • helpu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol
  • buddsoddi mewn profi ac olrhain a recriwtio ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.

Busnesau

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r arian hefyd yn helpu i ddarparu’r pecyn cefnogi busnesau haelaf ym Mhrydain.

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n dangos bod mwy na 52,000 o grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £640m yn cael eu talu i fusnesau yng Nghymru, sydd hefyd yn elwa ar rhyddhad ardrethi drwy’r pecyn £1.4 biliwn a gyhoeddwyd fis Mawrth. Dyma rai manylion am y grantiau:

  • Ynys Môn: 1517 o grantiau gwerth £19,325 miliwn
  • 1657 o grantiau yn Wrecsam gwerth £19,730 miliwn
  • Yn y canolbarth yng Ngheredigion: 1867 o grantiau gwerth £23,065 miliwn
  • Caerdydd sydd â’r nifer fwyaf o grantiau gyda 4,402 ohonynt, gwerth £60,025 miliwn
  • Merthyr Tydfil sydd â’r nifer lleiaf o grantiau gyda 945 yn cael eu talu allan, gwerth £11,675 miliwn.

Angen llacio’r rheolau

Mae’r Gweinidog Cyllid wedi galw hefyd ar Lywodraeth y DU i lacio’r rheolau ariannol llym sy’n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gyfeirio mwy o adnoddau er mwyn ymateb i COVID-19.

“Mae’r ymateb ariannol digynsail yma wedi sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gefnogaeth orau bosibl ar unwaith i wasanaethau cyhoeddus a busnesau Cymru a’r rhai mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng hwn”  meddai’r  Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

“Mae’n gwbl briodol ein bod ni wedi cael ein harwain gan ymdeimlad o’r hyn sy’n deg, pan fo pwysau mor enfawr ar arian cyhoeddus. Dyma pam rydym ni wedi mynd y tu hwnt i’r cyllid rydym wedi’i dderbyn gan Lywodraeth y DU er mwyn darparu cefnogaeth wedi’i thargedu – o gyllido prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau i ddarparu’r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU.

“Mae llawer o heriau o’n blaen o hyd ac mae ein gallu i ymateb yn cael ei gyfyngu gan y rheolau ariannol llym sy’n cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU. Bydd llacio’r rheolau ar gyfer y ffordd rydym yn rheoli ein cyllideb a’r swm y gallwn ei fenthyca yn rhyddhau adnoddau y mae eu gwir angen ar gyfer y rhengoedd blaen yn yr argyfwng hwn.

“Byddaf yn parhau i annog y Trysorlys i ddatrys y broblem hon ac, wrth i ni edrych ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau’r achos yn erbyn unrhyw fwriad i ddychwelyd at bolisi di-hid o gyni.”