Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu’r bwlch rhwng pobl actif a segur yng Nghymru, gyda’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig yn dioddef fwyaf.
Mae arolwg sydd wedi’i gynnal gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru wedi canfod, er nad yw’r lefelau gweithgarwch corfforol wedi newid yn sylweddol:
- fod 34% o oedolion Cymru’n dweud eu bod yn gwneud mwy yn ystod y cyfnod yma na chyn cyfyngiadau COVID-19,
- a bod 33% yn dweud eu bod yn gwneud llai
Ymhlith yr oedolion o gefndiroedd economaidd gymdeithasol uwch,
- mae 39% yn dweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch
- ac mae 32% yn gwneud llai,
Mae hynny’n golygu bod cynnydd o +7 pwynt canran wedi bod mewn gweithgarwch.
Fodd bynnag, ar gyfer oedolion o gefndiroedd economaidd gymdeithasol is:
- mae 29% yn gwneud mwy
- ac mae 33% yn gwneud llai
Mae hynny’n golygu bod gostyngiad o -4 pwynt canran wedi bod ymhlith y grŵp hwn.
Plant
Mae canlyniadau’r arolwg yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn amlycach fyth ymhlith plant.
Er bod 9% o oedolion yn gyffredinol yn dweud nad yw eu plant yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol neu ymarfer ar ddiwrnod nodweddiadol ar hyn o bryd, ar gyfer y rhai o gefndiroedd economaidd gymdeithasol is, mae’r ffigur yn 14%.
- Yn gyffredinol, dywedodd 26% o rieni bod eu plant yn gwneud mwy o weithgarwch nag arfer yn ystod y cyfyngiadau symud
- dywedodd 35% bod eu plant yn gwneud llai
Fodd bynnag:
- dim ond 23% o rieni o gefndiroedd economaidd gymdeithasol is sy’n dweud bod eu plant yn fwy actif nag arfer,
- o gymharu â 36% sy’n dweud eu bod yn gwneud llai
Anghydraddoldeb wedi dwysau
“Er ei bod yn galonogol gweld y pwysigrwydd hanfodol mae’r Llywodraeth wedi’i bennu i ymarfer yn ystod y pandemig hwn, yn anffodus mae’n ymddangos bod llawer o’r anghydraddoldeb a fodolai eisoes wrth gymryd rhan mewn chwaraeon wedi dwysáu yn ystod y cyfyngiadau symud,” meddai Brian Davies, prif weithredwr Chwaraeon Cymru.
“Fel rhan o’r gwaith ar y cyd sy’n cael ei wneud er mwyn ailgyflwyno chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru yn ddiogel, rhaid i ni sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r wybodaeth hon yn ein hymdrechion i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol mor hygyrch â phosib a thargedu ein hadnoddau i gyrraedd y cymunedau a’r grwpiau hynny sy’n llai actif yn ystadegol.
“Ar gyfer plant yn benodol, rydw i’n meddwl bod canlyniadau’r arolwg yma’n pwysleisio pwysigrwydd chwaraeon ysgol a’n strwythur o glybiau chwaraeon i bobl ifanc yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd, er bod y cyfyngiadau symud yn parhau, fe hoffwn i dynnu sylw at ymgyrch #CymruActif sy’n cynnig amrywiaeth eang o syniadau ar gyfer gweithgarwch a heriau i helpu pob oedran i fod yn actif, yn ogystal ag ymarferion cartref addas i bob gallu.
“Hefyd rydyn ni wedi creu nifer o adnoddau arbenigol i wella sgiliau corfforol a chwaraeon plant ac maen nhw ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’n gwefan ni. Ewch i adran #CymruActif ar wefan Chwaraeon Cymru i gael gwybod mwy, neu chwilio am yr hashnod ar gyfryngau cymdeithasol.”