Fe ddaeth i’r amlwg fod yr heddlu wedi cael eu galw i gartref aelod seneddol Ceidwadol Delyn, wrth i’w wraig ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.

Mae Rob Roberts a’i wraig wedi gwahanu ers iddo wneud cyhoeddiad yn ddiweddar am ei rywioldeb.

Yn ôl y Daily Mirror, cafodd dau o bobol orchymyn gan yr heddlu i adael y tŷ yn yr Wyddgrug am eu bod nhw’n torri rheolau’r coronafeirws.

Fe wnaeth Rob Roberts drydar am y digwyddiad neithiwr, gan ddweud ei fod e yn Lludain ar y pryd.

“Doedd Rob Roberts ddim yn bresennol ar y pryd,” meddai llefarydd ar ei ran.

“Mae ei deulu wedi cael eu hatgoffa o’r rheolau sydd wedi’u hamlinellu gan y Llywodraeth.”