Mae ffatri papur tŷ bach ym Mhenygroes ger Caernarfon, sy’n cyflogi 94 o bobol, am gau ddiwedd yr wythnos o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.

Mewn datganiad, mae Northwood Hygiene Products yn dweud bod y dewis i gau’r ffatri sy’n cynhyrchu papur tŷ bach wedi ei wneud yn dilyn adolygiad.

Yn ogystal â Phenygroes mae gan gwmni Northwood Hygiene Products ffatrïoedd yn Telford, Oldham, Birmingham, Lancaster a Bromsgrove – ond yn dilyn yr adolygiad ffatri Penygroes yw’r unig ffatri fydd yn cau.

“Fel rhan o adolygiad strategol o weithrediadau busnes, a gan ystyried bod y farchnad yn newid yn gyflym, mae cyfarwyddwyr Northwood Hygiene Products yn siomedig i gyhoeddi ein bod yn bwriadu cau ein ffatri ym Mhenygroes,” meddai.

“Y gostyngiad yn y galw o ganlyniad i Covid-19, a’r cwymp sylweddol mewn gwerthiant rydym yn ei ragweld oherwydd hyn sydd wedi ein gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn.

“Mae’r cwmni wedi ymrwymo’n llwyr i ddilyn proses ymgynghori gyda’r holl weithwyr ac undebau – bydd y broses ymgynghori yn para am o leiaf 30 diwrnod.”

Mae un o weithwyr y ffatri, nad oedd am gael ei enwi, yn dweud wrth golwg360 ei fod yn wynebu dyfodol ansicr, ond nad oedd yn barod i siarad â’r wasg rhag ofn iddo golli ei daliad diswyddo.

Ymateb lleol

“Mae cyhoeddiad heddiw gan gwmni Northwood yn ergyd drom i Benygroes ac i ardal Dyffryn Nantlle yn ehangach,” meddai’r Cynghorydd Judith Humphreys, yr aelod lleol dros Benygroes ar Gyngor Gwynedd.

“Rydw i’n meddwl am yr holl staff a’u teuluoedd ar yr adeg anodd yma.

“Rydw i eisoes wedi siarad efo swyddfa’r Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol ac efo Pennaeth Adran Datblygu Economiadd Cyngor Gwynedd – byddaf yn gweithio gyda hwy, ac awdurdodau eraill, i gefnogi’r staff ym mhob ffordd bosib ac i wneud pob ymdrech i adnabod y ffordd ymlaen.”

Mae ei neges wedi’i hategu gan y Cynghorydd Gareth Thomas, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’r cyhoeddiad yma yn amlwg yn fater o bryder,” meddai.

“Mae Northwood wedi bod yn gyflogwr o bwys yn yr ardal yma o’r sir ers blynyddoedd, a byddai colli 94 o swyddi yn ergyd sylweddol i’r ardal.

“Byddwn yn ceisio cyfarfod buan gyda’r cwmni mewn cydweithrediad gyda Llywodraeth Cymru ac adran DWP dros y dyddiau nesaf i ystyried sut orau i gefnogi’r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Ymateb Plaid Cymru

Mae Hywel Williams, yr Aelod Seneddol, a Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd, wedi ymateb i’r cyhoeddiad.

“Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r 94 o weithwyr a gyflogir ar y safle ym Mhenygroes,” meddai’r ddau ar ran Plaid Cymru mewn datganiad.

“Nid yw hyn yn effeithio yn unig ar y gweithwyr ond ar eu teuluoedd hefyd.

“Mae hyn yn ergyd economaidd na allwn ei fforddio, ac ar adeg o ansicrwydd sylweddol i bawb.

“Mae Northwood yn gyflogwr sydd wedi’i hen sefydlu yn Arfon, ac mae’n drueni bod cyflogwr mor fawr wedi gwneud y penderfyniad hwn o dan amgylchiadu mor ddigynsail.

“Byddwn yn ysgrifennu at y cyflogwr ynghyd â Llywodraeth Cymru ar fyrder.

“Y flaenoriaeth yw lles y gweithwyr a’u teuluoedd ar yr adeg anodd hon a byddwn yn rhoi ein cefnogaeth lawnaf iddynt yn yr wythnosau i ddod.”