Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofidio am y nifer o brofion coronafeirws sy’n cael eu cynnal yng Nghymru bob dydd, sy’n cyfateb i ychydig yn fwy na hanner y capasiti.

5,330 yw’r capasiti ers pythefnos, ond dim ond 3,000 o brofion sy’n cael eu cynnal bob dydd.

“Er fy mod yn croesawu’r cynnydd yn nifer y profion ar gyfer preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal, mae niferoedd y canlyniadau profion cadarnhaol sy’n dod yn ôl yn destun pryder mawr,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd gofal cymdeithasol y blaid.

“Wrth i’r profion gynyddu, mae’n debyg y bydd mwy o achosion lle mae gan rywun coronafeirws, ond mae gwahaniaeth cynyddol rhwng y sectorau cartrefi gofal a gofal iechyd.

“Mae angen i ni ddeall y rheswm am hyn, ac felly rwy’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddweud wrth y bobol ymroddedig a diwyd sy’n gweithio yn y sector cartrefi gofal yn union beth fydd yn ei wneud i’w hamddiffyn.

“Mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio’r adroddiadau rydym wedi clywed amdanyn nhw fod rhai gweithwyr hanfodol yn cael eu harallgyfeirio i Loegr – yn wir cyn belled â Dyfnaint – i’w profi.

“Hefyd, mae’n ofid ychwanegol i mi fod rhai cartrefi gofal mwy, sydd â mwy na 50 o drigolion, yn cael blaenoriaeth mewn rhai ardaloedd.

“Dylai pob cartref gofal fod yn flaenoriaeth ac yn cael profion.”