Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ennill Gwobr Llesiant gan fudiad iechyd meddwl Mind.

Mae Mind yn fudiad sy’n gwobrwyo cyflogwyr am hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl, gan ddarparu argymhellion ar gyfer meysydd penodol ac awgrymu gwelliannau.

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn un o 103 o sefydliadau i gymryd rhan yn y gwobrau, gan ennill Gwobr Arian am ymrwymo i wneud newidiadau yn y gweithle.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu rhaglen cymorth iechyd meddwl, ac mae ganddyn nhw statws Cyflogwr Adduned Amser i Newid erbyn hyn.

Maen nhw hefyd wedi hyfforddi deg Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac 16 Hyrwyddwr Iechyd Meddwl yn ogystal â datblygu Grŵp Gweithredu Llesiant Staff.

Cynhaliodd arolwg ymysg dros 44,000 o weithwyr o 106 o gyflogwyr oedd yn cymryd rhan yn y Gwobrau.

Dywed Mind fod saith o bob deg person wedi wynebu problem iechyd meddwl yn eu bywydau, gyda 53% yn cael eu heffeithio gan iechyd meddwl gwael yn eu gweithle.

‘Hynod falch’

“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi derbyn y Wobr Arian ym Mynegai Lles meddyliol Mind,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

“Mae hon yn dipyn o bluen yn ein het ac rwy’n falch iawn bod y gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi cydweithwyr ledled y sefydliad wedi cael ei gydnabod.”

Mae Emma Mamo, Pennaeth Llesiant yn y Gweithle Mind, yn dweud bod “pob cyflogwr yn dibynnu ar gael gweithlu iach a chynhyrchiol”.

“Mae gweithwyr sy’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn llawer mwy tebygol o sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer eich sefydliad,” meddai.

“Dyna pam ein bod yn falch iawn o gydnabod a dathlu cyflogwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl yn eu sefydliad drwy ein Gwobrau Llesiant yn y Gweithle.”