Mae Nando’s yn paratoi i ailagor 94 o’u bwytai ar gyfer dosbarthu a chasglu ar ôl cau safleoedd oherwydd y coronafeirws.

Bydd staff sy’n gwisgo PPE yn paratoi cyw iâr peri peri i gwsmeriaid mewn 54 yn rhagor o’u bwytai, gan gynnwys y bwyty yng Nghaerdydd o heddiw (dydd Mawrth, Mai 26).

Dywed y cwmni y bydd yn ehangu hyn i 40 o fwytai eraill o yfory (dydd Mercher, Mai 27), gyda chwsmeriaid yn gallu archebu bwyd i’w gasglu neu ei ddosbarthu oddi ar eu gwefan.

Nando’s yw’r bwyty diweddaraf o blith rhestr hir, gan gynnwys Wagamama a KFC, sydd wedi dechrau gweini cwsmeriaid eto.

Ailagor yn raddol

Ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth Prydain wrth fwytai am gau eu drysau fel rhan o’r gwarchae, ond maen nhw wedi parhau i ganiatáu i fwytai ddarparu gwasanaethau cludfwyd a chasglu, yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch.

Fis diwethaf, ailagorodd Nando’s eu ceginau mewn pedwar bwyty yn Llundain a dau ym Manceinion ar gyfer danfon nwyddau.

Dywed y cwmni y byddan nhw’n awr yn ailagor safleoedd mewn dinasoedd fel Glasgow, Caeredin, Lerpwl, Birmingham, Coventry, Caerlŷr a Belfast, ar ôl treialon “llwyddiannus”.

Dywedodd y gadwyn y byddan nhw’n darparu bwydlen “lai” er mwyn cefnogi’r staff, ond y byddan nhw’n dal i weini eu heitemau mwyaf poblogaidd.

Ac maen nhw’n dweud y bydd rhaid gosod archebion ar-lein drwy eu gwefan i osgoi ciwio a chadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel.

Mae cwsmeriaid hefyd yn cael eu hannog i beidio â theithio i’r bwyty yn ddiangen oni bai eu bod yn codi archeb ar yr amser sydd wedi’i neilltuo ar eu cyfer.

Dywed Nando’s fod cyfarpar diogelu (PPE) ar gael i’r staff ei wisgo ac maen nhw hefyd wedi cael eu hannog i olchi eu dwylo yn fwy rheolaidd.