Mae Llywodraeth Cymru yn dal i geisio deall pam fod y coronafeirws yn cael effaith anghymesur ar leiafrifoedd ethnig, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Ac mae hyn er gwaetha’r ffaith mai 18% o’r boblogaeth yw pobol o leiafrifoedd ethnig.

Fe ddaeth i’r amlwg fod pobol o leiafrifoedd ethnig hefyd mewn mwy o berygl o ddioddef o un o’r cyflyrau iechyd sy’n gallu rhoi rhywun mewn mwy o berygl o gael eu heintio â’r feirws.

Daw ei sylwadau yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Mai 26).

“Dydyn ni ddim eto’n deall pam yn llawn,” meddai am y sefyllfa.

“fe fydd yna nifer o resymau a chymhlethdod y tu ôl i hyn.

Fe ddywedodd fod y llywodraeth yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr i ddeall y sefyllfa, a’u bod nhw’n gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain.

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys sefydlu nifer o grwpiau cynghori, meddai.

Profion

Ac wrth drafod profion, dywedodd Vaughan Gething ei bod hi’n “annerbyniol” fod gweithwyr allweddol yn cael eu hanfon i lefydd mor bell i ffwrdd â Dyfnaint a Henffordd am brofion.