Roedd nifer o bobol wedi beirniadu polau Twitter oedd yn gofyn i wylwyr Eisteddfod T ddewis eu hoff berfformiadau, ac sydd bellach wedi cael eu dirwyn i ben.

Mae golwg360 wedi gweld enghraifft o’r negeseuon oedd yn gofyn i wylwyr bleidleisio am eu hoff gystadleuwyr llwyfan wrth i S4C ddarlledu’r cystadlaethau ddoe (dydd Llun, Mai 25).

Mae neges wreiddiol Mererid M Williams yn gofyn “Oes wir angen y ‘polls’ yma?” ac yn mynd yn ei blaen i ddweud fod yr “Eisteddfod T yn wych” ac yn “hwyl”, ond “tydy ‘poll’ fel hyn ddim yn hwyl”.

“Gall wneud niwed i hunan-werth plant,” meddai’r neges wedyn.

Mae llefarydd ar ran yr Urdd bellach wedi cadarnhau bod y polau wedi cael eu dirwyn i ben.

Ymatebion

Mae’r neges wedi ennyn ymatebion tebyg, gyda nifer o bobol yn cytuno bod y polau’n annheg.

Yn ôl @DyfedWyn, mae’n “ofnadwy” ac yn “creu gwewyr meddwl”, ac mae “tynnu plant i’r canol fel hyn yn syniad gwael iawn”.

“Sdim ishe nhw”, meddai Elin Maher, sy’n cymharu’r polau â “thablau siroedd”.

Ac mae @GutoPuw yn awgrymu nad oes angen gosod cystadleuwyr yn gyntaf, ail a thrydydd, gan ofyn “oni fyse’n well jest cael cyngerdd?”

“O mam bach, ydyn nhw dal wrthi?” oedd ymateb @huwcyned, sy’n awgrymu mai “gimmick teledu” yw’r polau.

Ymateb yr Urdd

Wrth ymateb, mae’r Urdd yn dweud eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i’r polau.

“Mae Eisteddfod T yn gysyniad cwbl newydd ac roeddem yn awyddus i arbrofi gyda nifer o elfennau,” meddai llefarydd.

“Erbyn hyn, ac ôl ystyried ymateb sawl un, ni fyddwn yn defnyddio’r pôl Twitter o hyn ymlaen.”