Ysgol Cwm Banwy yw enw’r ysgol gynradd Gymraeg newydd fydd yn agor ym Mhowys ym mis Medi.

Ym mis Medi 2019, gwnaed y penderfyniad i gyfuno dwy ysgol ym Mhowys, ac i sefydlu ysgol gynradd newydd, wedi’i lleoli ar safle presennol un o’r ysgolion.

Bydd dwy ysgol gynradd lleol, Ysgol Gynradd Gymunedol Banw ac Ysgol Sefydledig yr Eglwys yng Nghymru Llanerfyl, yn uno ar safle Ysgol Banwy yn dilyn eu cau ym mis Awst.

Enw

Bu trafodaeth am enw’r ysgol newydd gyda disgyblion a staff ysgolion Banw a Llanerfyl, a cheisiwyd barn y cymunedau lleol hefyd.

Yn ogystal â chytuno ar enw’r ysgol newydd, penodwyd Betsan Llwyd, Pennaeth presennol Ysgol Gynradd Gymunedol Banw, yn Bennaeth newydd Ysgol Cwm Banwy.

“Mae cynnydd da yn cael ei wneud i gael popeth yn ei le ar gyfer agor Ysgol Cwm Banwy ym mis Medi,” meddai Emlyn Thomas, Cadeirydd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Cwm Banwy.

“Mae’r pennaeth a’r staff dysgu wedi cael eu penodi.

“Mae ein safle mwy neu lai yn barod – gydag ychydig o waith adnewyddu ar ôl i’w wneud dros fisoedd yr haf.

“Mae ein cyllideb a’n cyllid wedi cael eu cymeradwyo. Mae’r gwaith ar gyfer dylunio logo a gwisg yr ysgol yn dal i fynd yn ei flaen ac sy’n cynnwys plant y gymuned a bydd yn cael ei gwblhau cyn bo hir.

“Ar ran holl lywodraethwyr yr ysgol, rwy’n hyderus y gallwn edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair i’r ysgol hon ac i blant ein cymuned.”

‘Cyfle newydd’

Dywed Betsan Llwyd, Pennaeth yr ysgol newydd, ei fod yn gyfnod cyffrous sy’n cyflwyno’r posibilrwydd o ddyfodol disglair i’r ysgol.

“Dyma ddechrau newydd, cyfle newydd a degawd newydd ar gyfer ein plant yn y dyffryn,” meddai.

“Fy ngobeithion fel pennaeth yw sefydlu ysgol eglwys newydd sy’n ffynnu, sy’n gynhwysol ac sy’n cyflawni amcanion y mae’r gymuned ehangach yn eu haeddu.”

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’r llywodraethwyr, staff, rhieni a’r disgyblion wrth iddynt baratoi ar gyfer dechreuad newydd fel Ysgol Cwm Banwy,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd yn Ysgol Cwm Banwy wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wella profiad y dysgwr ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal hon.”