Dywed y mudiad Yes Cymru eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru dros y mis diwethaf.

Mae’r cadeirydd, Siôn Jobbins, yn priodoli hyn i raddau helaeth i benderfyniad llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fynnu parhau i ymdrin â’r argyfwng coronafeirws yn eu ffordd eu hunain.

Penderfynodd y tair llywodraeth lynu at eu neges wreiddiol i’r cyhoedd aros adref, pan wnaeth Boris Johnson wanhau a chymhlethu’r neges yn Lloegr ychydig dros bythefnos yn ôl.

“Wrth wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos dau beth pwysig,” meddai Siôn Jobbins.

“Yn gyntaf, does dim rhaid dilyn beth mae Llywodraeth Prydain yn ei wneud bob tro, ac yn ail, gall ein penderfyniadau ni fod yn gallach na’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr.

“Mae’n dangos Cymru’n gallu torri ei chwys ei hun a gweithredu er gwell.”

Mae’n credu bod y ffaith fod y gwahaniaethau polisi yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a’u hatgyfnerthu gan yr heddlu hefyd wedi bod yn arwyddocaol.

“Mae teimlad wedi bod o Gymru’n cael ei hanwybyddu, ac mae yna falchder o weld llywodraeth yn dal ei thir,” meddai. “Mae’r syniad o Gymru’n sefyll gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cyfleu’r teimlad nad ydym ar ein pen ein hunain.”

Dywed fod cynnydd mewn diddordeb a chefnogaeth wedi dod yn amlwg iawn pan ddechreuodd y dryswch ynghylch neges Boris Johnson bythefnos yn ôl, ac yn fwy diweddar dros y ddeuddydd ddiwethaf yn sgil helynt Dominic Cummings.

“Yn sicr mae llawer mwy o weithgarwch ar ein gwefannau ac mae cynnydd o rai cannoedd yn ein haelodaeth,” meddai.

“Mae’n eironig oherwydd fe ddechreuodd y gwanwyn gyda’r siom fawr o orfod gohirio’n ralïau, ond mae pethau wedi symud yn gyflym ers hynny.”