Mae Undeb y Brigadau Tân yn galw ar holl brif weinidogion Prydain i roi moratoriwm ar unrhyw doriadau i wasanaethau tân ac achub.

Mewn llythyr at Boris Johnson, Mark Drakeford, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster, mae’r undeb yn pwyso am gyllid a buddsoddiad digonol i sicrhau safon y gwasanaeth yn y dyfodol.

Yn ôl yr undeb, mae diffoddwyr tân wedi ysgwyddo llawer o waith ychwanegol yn helpu’r gwasanaeth iechyd yn ystod pandemig y coronafeirws, a hynny ar ôl gorfod ymladd yn erbyn toriadau i bob brigâd dân dros y ddegawd ddiwethaf.

“Allwn ni ddim mynd yn ôl at y wleidyddiaeth aflwyddiannus o dorri ar wasanaethau a disgwyl iddyn nhw wedyn fod yn barod i weithredu pan ddigwydd argyfwng,” meddai Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân (FBU).

“Mae brigadau wedi cael eu taro â degawd o lymder, ond mae diffoddwyr tân er hynny wedi cymryd camau anghyffredin i helpu’r frwydr yn erbyn y coronafeirws. Dydyn nhw ddim yn haeddu toriadau pellach.

“Mae llu o risgiau rhagweladwy a allai achosi’r argyfwng cenedlaethol mawr nesaf – ac nid y lleiaf o’r rhain yw risg o don arall o’r coronafeirws neu bandemig arall. Pan ddaw’r argyfwng hwnnw, dylai fod gwasanaeth tân sydd wedi ei gyllido’n addas yn barod i ymateb.

“Mae’r Prif Weinidogion wedi ymuno â’r cyhoedd i gymeradwyo gweithwyr allweddol bob dydd Iau. Byddai’n anfaddeuol iddyn nhw ganiatáu parhau’r toriadau i wasanaethau tân.”