Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i’w gar daro coeden yn Sir Benfro.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 10.58 neithiwr (nos Sadwrn, Mai 23) yn ardal Penalun ger Dinbych-y-Pysgod.

Fe adawodd car Kia Rio lliw gwyn yr heol cyn taro coeden.

Cafodd gyrrwr y car, yr unig berson yn y cerbyd, anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 0845 330 2000.