Mae marwolaethau chwe chlaf coronafeirws arall wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru dros y 24 diwethaf, gan ddod â’r cyfanswm i 1,260.

Mae cynnydd o 157 wedi bod yn nifer y marwolaethau mewn ysbytai yn Lloegr, gyda’r ieuengaf ond 12 oed a oedd yn dioddef o gyflyrau iechyd eraill.

Mae 16 ychwanegol wedi marw yn yr Alban, gan ddod â’r cyfanswm i 2,261, ac un claf ychwanegol wedi marw yng Ngogledd Iwerddon gan godi’r cyfanswm i 505.