Pan chwaraeodd Barry John ei gêm rygbi olaf yn y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd, ar nos Fercher 26 Ebrill 1972, doedd fawr neb wedi ystyried mai dyna’r tro olaf y bydden nhw’n gweld y maswr trydanol yn camu ar y maes.

Yn wir, wedi iddo sgorio cais gynta’r gêm â’r un olaf – i sicrhau buddugoliaeth o 32 pwynt i 28 – roedd e’n amlwg i bawb yn gwylio’r noson hwnnw mai hwn oedd yr un Barry a serennodd dros y Llewod yn y daith fuddugol i Seland Newydd y flwyddyn flaenorol.

Ond nid gêm gyffredin oedd hon. Gêm elusennol ydoedd, i ddathlu Jiwbilî hanner can mlwyddiant yr Urdd ac i nodi llwyddiannau’r Llewod yn erbyn y Crysau Duon yn 1971.

Roedd 35,000 yn y stadiwm i wylio’r gêm ryfeddol yma, rhwng tîm Cymru – XV Barry John, yn erbyn tîm o Lewod Prydain ac Iwerddon – XV Carwyn James. Roedd 22 o’r Llewod aeth ar y daith, o Loegr, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, yna ar gyfer y gêm, gyda’r ddau dîm yn gwisgo bathodyn yr Urdd ar eu crysau.

Trefnwyd y cyfan gan bwyllgor hynod weithgar yr Urdd, gyda’r ddau fab o Gefneithin, dau gyn aelod o’r Urdd a dau aelod allweddol o daith y Llewod – Barry John a Carwyn James – yn hudo’r holl chwaraewyr i’r brifddinas ar gyfer y gêm.

Am y tro gyntaf ers darllediad gwreiddiol y gêm, bydd rhaglen uchafbwyntiau estynedig ohono i’w weld ar S4C, am 9.00 ar nos Fawrth 26 Mai, yn y rhaglen Urdd 50: XV Barry John v XV Carwyn James.

Ymddeol yn 27 oed

Naw diwrnod wedi’r gêm, fe gyhoeddodd John ei ymddeoliad yn 27 oed – gyda’r genedl gyfan yn galaru’r golled. Ond doedd y penderfyniad ddim yn syndod i rai o gyd-chwaraewyr John, gan gynnwys ei olynydd yn nîm cenedlaethol Cymru, Phil Bennet.

“I’r cyhoedd y bryd hynny, roedd penderfyniad Barry yn syndod mawr – ond doeddwn i heb synnu i ddweud y gwir,” meddai Bennett, odd 23 oed ar y pryd.

“Roedd e’n seren fawr, a’r bryd hynny, roedd lluniau ohono fe a George Best yn y papurau newydd, oherwydd roedd Barry llawn mor enwog â fe ar ôl dod gartref o ennill gyda’r Llewod yn Seland Newydd yn 1971.

“Oedd doedd Barry ddim yn ffilm star. Bachan ifanc o bentre’ bach yn y gorllewin oedd e ac mi oedd e’n gweld yr ochr yna o bethau yn galed. Fyddai e’n mynd am beint ac mi fyddai chwe pherson o’i gwmpas yn holi am ei lofnod ac yn gofyn cwestiynau yn ddi-stop.

“Mi fydda fe’n mynd i ryw ddigwyddiad ond methu cael munud o heddwch.

“Felly mi oedd sïon ymysg y bechgyn nad oedd e’n hapus.

“Mae’n rhaid cofio mai gêm i’r amaturiaid oedd o’r bryd ‘yn, ond chwarae am fwynhad oedd Barry, a dyna holl.

“Roedd e eisiau ennill pob gêm wrth gwrs, ond nid dyna oedd y peth pwysicaf iddo ac nid dyna oedd ei swydd chwaith.

“Pan ddaeth y newyddion, doeddwn i ddim yn synnu. Roedd o’n newyddion trist. Mi oedd rhan ohonof i’n meddwl byddai hynny’n helpu i mi gael fy newis i’r tîm, ond gyda llaw ar fy nghalon, gallwn ddweud nad oeddwn i’n hapus i glywed y newyddion.

“Roeddwn i’n becso ei fod e’n teimlo’n anhapus a bod e angen bennu gyda’i rygbi a gyda’i gyd chwaraewyr. Roedd ‘na sôn efallai bod cyfle iddo wneud bach o arian ar ôl ymddeol.

“Rhaid cofio, roedd pawb yn amaturiaid y bryd ‘yn, ac er gwaethaf enwogrwydd pobl fel Barry a Gareth Edwards, doedden nhw ddim yn cael eu talu i chwarae rygbi.

“Heb os, Barry oedd un o’r chwaraewyr gorau erioed i ddod mas o Gymru. Fe aeth rhai o’r bechgyn i chwarae rygbi’r gynghrair, ond fe bennodd Barry gan fod ‘e ‘di gael digon o’r sylw.

“Sai’n cofio unrhyw sôn am y penderfyniad ar ôl gêm yr Urdd, ond falle wir fod rhywbeth ‘di cael ei ddweud. Hyd yn oed os wnaeth e, fyddai’r peth heb gael ei drafod am amser hir.

“Roedd rhai ohonom yn gweithio yn y ffatri dur neu’n labro, felly roedd rhaid i ni godi i weithio am 6am y bore wedyn.“

Gwyliwch Urdd 50: XV Barry John v XV Carwyn James am 9.00 ar nos Fawrth 26 Mai, ar S4C.