Mae’r Cynghorydd Heledd Fychan o Blaid Cymru wedi lansio ei hymgyrch i gipio sedd Pontypridd oddi ar y Blaid Lafur yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Mick Antoniw sy’n dal y sedd ers 2011 ac mae gan y Llafurwr fwyafrif swmpus o 5,328.

Ond mae Helen Fychan wedi dweud wrth golwg360 nad yw “yn meddwl am faint y tu ôl i Lafur yr ydym ni, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar gynnig rhywbeth gwahanol i’r bobl”.

Mae hi hefyd wedi ei hysbrydoli gan gampau Leanne Wood yn yr etholiad diwethaf, pan drechodd hi’r Llafurwr Leighton Andrews.

“Dw i’n meddwl fod Leanne yn ennill y Rhondda yn 2016 wedi dangos ei bod hi’n bosib i Blaid Cymru ennill yn y Cymoedd,” meddai Heledd Fychan.

“Rydan ni hefyd wedi ennill etholiadau’r cyngor ym Mhontypridd sy’n dangos fod yna gefnogaeth i’r Blaid yma.”

Blaenoriaethau

 A hithau wedi cynrychioli ward tref Pontypridd ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf ers Mai 2017, mae Heledd Fychan yn dweud mai “gweithio efo’r gymuned ag unigolion” yn yr etholaeth yw un o’i blaenoriaethau.

“Mae yna sialensiau ar hyd etholaeth Pontypridd,” meddai.

“Mae diweithdra yn uchel yma, a dw i’n meddwl mai un o’r prif bethau sydd ei angen yw gweledigaeth am y dyfodol sydd yn cefnogi cymunedau a phobl.”

 Llifogydd

 Mae Heledd Fychan o’r farn nad oedd “y strwythur a’r gefnogaeth yna i warchod cymunedau a phobl rhag y llifogydd [fis Chwefror] a bod grwpiau cymunedol yn gorfod llenwi’r bwlch.

“Mae’n rhaid edrych o ddifri ar y ffordd ryda ni’n creu amddiffynfeydd, oherwydd mae’n debygol fod yna fwy o lifogydd yn mynd i ddod yn sgil newid hinsawdd.

“Rydym angen system effeithiol sy’n gynnig cefnogaeth i gymunedau yn gyflym.

“Megis dechrau oedd y gwaith glanhau ac adfer yma [pan gyrhaeddodd y pandemig coronafeirws] ac mae yna risg bod y llifogydd yn cael eu hanghofio yn sgil y coronafeirws.

“Mae’r sefyllfa yn ddifrifol o ran yr economi leol a bywoliaeth trigolion Pontypridd, roedd y gefnogaeth gafodd ei darparu yn llawer iawn llai na’r colledion.”

Etholiad 2021

 Mae Heledd Fychan yn awyddus i weld etholiad 2021 yn cael ei gynnal, er ei bod hi’n cydnabod y gallai hynny fod yn anodd oherwydd y cloi mawr.

“Hoffwn weld yr etholiad yn cael ei gynnal,” meddai.

“Yn sicr, gallai fod yna anawsterau o ran ymgyrchu – ond mae hi’n amser am lywodraeth newydd sydd â mwy o uchelgais, a chynllun gwell i Gymru.”

Cefndir

 Daw Heledd Fychan yn wreiddiol o Ynys Môn ac fe astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Dulyn.

Fe wnaeth hi sefyll dros y blaid ym Maldwyn yn etholiad San Steffan 2010.

Yn ogystal â gweithio fel cynghorydd, mae hi wedi gweithio i Amgueddfa Cymru ers 11 mlynedd a bellach yn Bennaeth Polisi, yn eistedd ar fwrdd Cymdeithas Amgueddfeydd Prydain, ac yn cadeirio’r Pwyllgor Moeseg.