Mae ardaloedd dosbarth gweithiol Saesneg eu hiaith yn gwneud Plaid Cymru yn “anghysurus iawn”.

Dyna mae Neil McEvoy, arweinydd y WNP (Welsh National Party) wedi ei ddweud yn ymateb i lythyr gan Dafydd Iwan yng nghylchgrawn Golwg – a golwg+.

Yn ei lythyr dywedodd Dafydd Iwan bod Neil McEvoy yn “anhapus yn ei groen ei hun”. Dywedodd hefyd nad yw Plaid Cymru yn “ofni” y WNP.

Mae Neil McEvoy bellach wedi ymateb gan dynnu sylw at drafferthion y Blaid ym Mlaenau Gwent a Llanelli.

Yn benodol, mae Neil McEvoy yn cyfeirio at y cyn-drysorydd a chyn-ymgeisydd i’r Blaid, Nigel Copner, gan ddweud y cafodd “ei yrru allan”.

Daeth Nigel Copner yn agos at gipio sedd Blaenau Gwent oddi wrth Lafur yn etholiad Cynulliad 2016. Mi adawodd Plaid Cymru oherwydd ei safiad ar annibyniaeth.

Mae Neil McEvoy hefyd yn cyfeirio at drafferthion y Blaid yn Llanelli. Cafodd y gangen gyfan yno ei diarddel yn 2018 am dorri rheolau sefydlog y blaid.

“Yr hyn sydd gan yr holl lefydd hyn yn gyffredin yw eu bod yn ardaloedd dosbarth gweithiol, Saesneg eu hiaith, sydd mae’n ymddangos yn gwneud Plaid Cymru yn anghysurus iawn,” meddai Neil McEvoy.

“Ac o ystyried bod Mr Iwan yn hoffi sôn am fy nghroen, nodwedd amlwg tu hwnt yw’r diffyg amrywiaeth yn rhengoedd Plaid Cymru.

“Gallaf sicrhau Mr Iwan fy mod i’n gyfforddus iawn yn fy nghroen hil-gymysg ac yn hytrach mai Plaid Cymru sy’n anghyfforddus yng nghroen Cymru.”

Gallwch ddarllen ymateb llawn Neil McEvoy mewn llythyr yn y rhifyn nesa’ cylchgrawn Golwg ac ar safle we golwg+ .

Cefndir y llythyr

Yn siarad â chylchgrawn Golwg yr wythnos diwethaf, dywedodd Neil McEvoy bod Plaid Cymru yn “pryderu” am apêl y WNP yn ei chadarnleoedd.

Dros yr wythnosau diwethaf mae dau gynghorydd o Wynedd wedi ymuno â’r WNP (gan gynnwys un a oedd ym Mhlaid Cymru gynt).

Daeth sylwadau Neil McEvoy wedi i Blaid Cymru herio’i hawl i ddefnyddio’r Welsh National Party yn enw – yn bennaf oherwydd tebygrwydd yr enw i enw gwreiddiol y Blaid.

Roedd y Blaid yn bygwth dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Comisiwn Etholiadol, a bellach mae’r corff hwnnw yn ailystyried enw plaid Neil McEvoy.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.