Dylai bod gan y gwrthbleidiau’r hawl i ymateb i gynadleddau dyddiol y Llywodraeth, yn ôl Aelod o’r Senedd Plaid Cymru.

Bob dydd am 12.30 y prynhawn, mae cynhadledd gan weinidog – neu swyddog meddygol – yn cael ei ddarlledu yn fyw gan y BBC.

Maen nhw hefyd yn cael eu darlledu ar gyfrif Twitter y Llywodraeth, ac mae newyddiadurwyr yn cymryd rhan yn rithiol â chamerâu. Covid-19 yw’r testun trafod bob tro.

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Arfon, dylai’r BBC roi cyfle i wleidyddion ymateb i’r cynadleddau. A bellach mae wedi anfon y cais ar ffurf llythyr.

“Atebolrwydd”

“Mae gweithredoedd llywodraeth yn dylanwadu ar gymaint o fywydau, ac ar anghenion y cyhoedd, ac mae’n bwysig bod y cyhoedd yn cael gweld pob ochr o’r broses ddemocrataidd,” meddai.

“Yn y wlad hon, rydym yn rhydd i gyflwyno safbwyntiau gwahanol. Felly dw i’n cynnig fy nghais er mwyn craffu ac atebolrwydd…”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a’r BBC am ymateb.