Mae Llywodraeth Cymru wedi dyblu nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael drwy greu ysbytai maes ledled y wlad o fewn cyfnod o bedair i chwe wythnos.

Cafodd Llywodraeth Cymru gyllid o £166m i sefydlu ac adeiladu ysbytai maes yng Nghymru ac i dalu am offer ar eu cyfer.

Mae byrddau iechyd wedi addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys Stadiwm y Principality, parc gwyliau a stiwdio deledu hyd yn oed, er mwyn darparu 6,000 o welyau ychwanegol.

Diben ysbytai maes yw cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod pandemig y coronafirws drwy ddarparu gwelyau ychwanegol.

Byddan nhw hefyd yn helpu gwasanaethau ysbyty arferol i ailddechrau ac yn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae ‘na 19 o ysbytai maes yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hyn yn cynnwys adeiladau wedi’u haddasu ym Mharc Gwyliau Bluestone a Pharc y Scarlets yn y Gorllewin, a Venue Cymru yn y Gogledd.

Ysbyty Calon y Ddraig

Ym mis Ebrill,  cafodd y cleifion cyntaf eu derbyn i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Yno,  mae ‘na 1,500 o welyau, sy’n ei wneud yn un o ysbytai maes mwyaf Prydain.

Dim ond pum diwrnod gymerodd i gynllunio’r ysbyty, ac roedd gweithwyr o dros 20 o wahanol ddisgyblaethau yn rhan o’r gwaith cynllunio.

Ac mae ‘na 138,000 darn o offer wedi eu darparu i helpu i gefnogi ysbytai maes, gan gynnwys gwelyau, offer delweddu, gyrwyr chwistrelli a meddyginiaethau.