Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Cadernid Covid-19 heddiw (dydd Mawrth, Mai 20) i “achub, adolygu ac adnewyddu” addysg ôl-16.

Bwriad y cynllun yw darparu addysg i ddysgwyr sydd dros 16 oed, gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau, cyflogadwyedd a dysgu oedolion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â cholegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant er mwyn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Y rhannau gwahanol

Mae tair rhan i’r cynllun, gyda’r cam presennol, sef “achub”, yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan ddarparwyr addysg sicrwydd o ran cyllid a threfniadau dysgu.

Bydd y cyfnod “adolygu” yn cynllunio ar gyfer newidiadau posib erbyn tymor yr hydref.

Tra bydd y cyfnod “adnewyddu” yn rhoi trefniadau ar waith ar gyfer gweddill blwyddyn academaidd 2020-21.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn nodi’r dysgwyr y mae’r coronafeirws yn debygol o amharu arnyn nhw fwyaf.

Mae’r rhain yn cynnwys blynyddoedd 11 ac 13, yn ogystal â dysgwyr galwedigaethol sydd angen mynediad i golegau neu weithleoedd i  allu cwblhau eu cyrsiau.

‘Cadw’n ddiogel, dal ati i ddysgu’

Daw’r Cynllun Cadernid wedi cyhoeddi’r cynllun parhad dysgu ar gyfer ysgolion, fis diwethaf, Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.

“Bydd y cynllun hwn yn ategu ein cynllun parhad dysgu ar gyfer ysgolion, ‘Cadw’n ddiogel. Dal ati i ddysgu’, ond bydd hefyd yn cydnabod y lefelau uwch o ymreolaeth ac amrywiaeth addysg a hyfforddiant a ddarperir gan y sector ôl-16,” meddai’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

“Rydym am ddod allan o’r pandemig hwn yn gryfach nag erioed, gan adeiladu gwell economi yn genedlaethol, gyda chyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn cael eu dosbarthu’n fwy cyfartal drwy Gymru,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Mae’r sector addysg ôl-16 yn hanfodol i hyn.”