Mae miloedd o bobol wedi bod dysgu Cymraeg yn ystod y gwarchae, gyda dros 8,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau digidol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ers i’r gwarchae ddechrau, mae cyrsiau “cyfunol” cenedlaethol newydd wedi denu 1,300 o bobol.

Mae’r cyrsiau yn cyfuno dysgu o dan arweiniad tiwtor gyda dysgu ar-lein annibynnol.

Maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim, gydag 89 o ddosbarthiadau rhithiol yn cael eu harwain gan diwtoriaid dros gyfnod o ddeg wythnos.

Hyd yn hyn mae bron i 7,000 o ddysgwyr wedi dilyn cyrsiau blasu’r Ganolfan, sy’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd.

Ar ben hyn mae’r ganolfan wedi cyflwyno mentrau digidol eraill megis gwersi fideo dyddiol sy’n cael eu ffrydio’n fyw ar Facebook.

Dywed y Ganolfan ei fod yn bwriadu ail-lansio’r cynllun Siarad, sy’n paru dysgwyr gyda siaradwyr Cymraeg, yn y gobaith i roi hwb i hyder y dysgwyr.

‘Ymateb yn bositif’

“Mae’r sector Dysgu Cymraeg wedi ymateb yn bositif i heriau’r cyfnod cyfyngiadau symud gydag ystod o fentrau sy’n galluogi oedolion i barhau i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg yn eu cartrefi,” meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae dysgu sgil newydd yn rhoi sbardun a hyder i bobl ac mae ymuno â dosbarth yn ffordd dda o gysylltu â phobl eraill ac o gael trefn a strwythur mewn cyfnod ansicr.”

Mae Cheryl George o Bontypridd yn un o’r rhai sy’n dilyn un o’r cyrsiau cyfunol newydd.

“Dw i wedi eisiau dysgu Cymraeg ers amser hir,” meddai.

“Dw i wedi rhoi tro ar ddysgu yn y gorffennol, ond roedd bywyd a gwaith yn rhy brysur.

“Nawr ’mod i ar gyfnod ffyrlo o’r gwaith, mae gen i’r amser i ddysgu. Fe welais i bod y cwrs yma ar gael ar-lein ac roedd hynny’n swnio’n berffaith.

“Ro’n i bach yn nerfus a phryderus am yr elfen ar-lein – sut fyddai’n gweithio? Roedd y sesiwn gyntaf dros Zoom yn ardderchog! Mae’r tiwtor yn hwyl ac yn llawn egni – fe wnaeth hynny greu argraff arna i a’r grŵp.”