Fe ddaeth i’r amlwg fod gwefan eBay wedi atal tudalen elusen Tarian Cymru heb rybudd nac esboniad clir.

Dydy’r defnyddiwr ‘tariancymrugig’ ddim bellach wedi’i gofrestru.

Ar y dudalen, mae’r trefnwyr yn nodi’n glir fod y dudalen wedi’i sefydlu i sicrhau “offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal Cymru”.

Ond yn ôl neges sydd wedi’i hanfon at reolwyr y dudalen, mae eBay yn dweud eu bod nhw wedi atal y dudalen “am ei bod yn arddangos risg i eBay a’i chymuned”.

“Gan fod eBay yn fusnes ar y rhyngrwyd, rhaid i ni bwyso a mesur y risgiau ynghlwm wrth adael defnyddwyr ar ein safle,” meddai’r neges wedyn.

“O dro i dro, rydym yn dod ar draws cyfrifon sy’n peri lefel o risg sy’n annerbyniol ac felly, maen nhw’n cael eu hatal.

“Rydym wedi penderfynu ei bod o fudd i ni’n dau ymwahanu.

“Rydym yn difaru unrhyw anghyfleustra mae hyn yn ei achosi i chi.”

‘I be?’

“Atalwyd ein cyfrif… i be’?” meddai Carl Morris mewn neges at Twitter.

“Apêl Tarian Cymru ar eBay wedi ei rhwystro.

“Nôl yn fuan gobeithio!

“Dulliau talu tu allan i eBay fel GoFundMe yn gweithio o hyd.

“Esboniad aneglur iawn isod.

“Rydym ar Heno a Geraint Lloyd heddiw. Pa gymwysterau eraill sydd angen?

“Nawr rydym wedi ein gadael yn dyfalu beth yw’r broblem.

“I egluro, dydyn ni ddim yn gwerthu cyfarpar diogelu ar eBay, dim ond yn codi arian mewn modd priodol – ac yn eithaf llwyddiannus hyd heddiw.

“A ddylen ni fod ar wasanaeth gwrthwynebwyr?

“Os ydych chi wedi ennill eitem trwy gyfrif eBay Tarian Cymru, rydym yn benderfynol o ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl. Mae’n flin gyda fi.”