Mae dynes wedi gwadu iddi gael perthynas â dyn sydd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ei gŵr â machete.

Dywed Jemma Aguis, sy’n fam i bump, nad yw hi erioed wedi cysgu gyda Shae Reffel, sydd wedi ei gyhuddo o ymosod ar Wayne Aguis ac a oedd yn amau’r dyn o ddwyn £12,000 o dŷ yn ardal Trelái yng Nghaerdydd fis Rhagfyr y llynedd, pan oedd e wedi mynd yno i brynu canabis.

Yn ôl yr erlynwyr, fe wnaeth Wayne Aguis orchymyn ei fod e’n cael yr arian yn ôl gan Shae Reffel, cyn ymosod arno ag ochr galed machete a bygwth ei saethu yn ei bengliniau.

“Dwi’n sori am ofyn hyn ond ydach chi erioed wedi cael rhyw fath o berthynas rywiol gyda Mr Reffel?” gofynnodd yr erlynydd wrth holi Jemma Aguis.

“Nac ydw, erioed,” meddai hithau.

Dywedodd wrth Lys y Goron Caerdydd ei bod hi’n “adnabod Shae Reffel” ac wedi byw ar yr un stryd ag ef ers chwe neu saith mlynedd.

Honnodd ei bod hi a’i gŵr wedi mynd i siarad â Shae Reffel ar fore’r ymosodiad, ar ôl clywed sibrydion fod Wayne Aguis wedi dwyn yr arian.

“Gofynnodd Wayne pam ei fod yn cael ei gyhuddo o ddwyn yr arian,” meddai wedyn.

“Dywedodd Shae nad oedd yn beio neb ei fod am ffeindio allan, ac y byddai yna ganlyniadau,” meddai Jemma Aguis.

Yr ymosodiad

Dywed yr erlynwyr fod Wayne Aguis wedi cael ei ddenu yn ôl i’r tŷ ar Illyt Road yn hwyrach yn y dydd, cyn dioddef ymosodiad a llwyddo i yrru’n ôl at ei wraig.

“Daeth Wayne drwy’r drws yn gweiddi fod Shae ac ambell un arall mewn balaclafas wedi ymosod arno,” meddai Jemma Aguis wrth y llys.

Gwadodd Jemma Aguis fod Shae Reffel erioed wedi bod yn ei thŷ a bod y ddau wedi cael perthynas rywiol.

“Dyma’r tro cyntaf i’r ddau ohonom glywed am hyn,” meddai.

Mae Shae Reffel o Ffordd Illyt, Caerdydd yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, un o’r rhai cyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru  ers y gwarchae, yn cael ei gynnal ar draws ddau lys.

Mae’r achos yn parhau.