Fe fydd swyddi ynni’n cael eu colli yn y de, wrth i gwmni OVO/SSE dorri hyd at 2,600 o swyddi yng Nghymru a’r Alban.

Fe wnaeth cwmni OVO brynu SSE ym mis Medi, gan addo na fyddai unrhyw un yn colli eu swyddi.

Ond mae’n ymddangos bellach fod y cwmni wedi gwneud tro pedol.

Er i OVO honni bod y coronafeirws wedi cyflymu’r broses o uno’r ddau gwmni, mae gweithwyr eisoes ar gennad.

Mae disgwyl i beirianwyr nwy, trydanwyr, darllenwyr mesuryddion, staff canolfan alwadau a gweithwyr swyddfa fod ymhlith y rhai fydd yn colli eu swyddi.

Yn ôl undeb GMB, dylid oedi’r broses o ddileu swyddi, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i addasu’r cynllun rhoi gweithwyr ar gennad er mwyn sicrhau bod cwmnïau sy’n derbyn arian gan y llywodraeth drwy’r cynllun cadw swyddi’n cael eu hatal rhag dileu swyddi am o leiaf flwyddyn.

‘Bradychu addewidion’

Mae undeb GMB yn cyhuddo OVO/SSE o “fradychu addewidion i weithwyr”.

“Coronafeirws neu beidio, dyma fradychu addewidion i weithwyr a gwleidyddion mewn modd sylweddol na fyddai gwerthu OVO yn arwain at golli swyddi,” meddai Justin Bowden, prif drefnydd yr undeb.

“Mae’r argyfwng a’r cap SVT wedi effeithio’r farchnad fanwerthu ynni yn gyfan, ond allwch chi ddim jyst torri eich ffordd allan o argyfwng wrth chwilio am elw.

“Tra ein bod ni wedi gallu achub 700 o swyddi rhag cael eu symud dramor, mae hyn yn 2,600 o swyddi da yn y Deyrnas Unedig gan gwmni sy’n prysur amsugno arian trethdalwyr drwy’r cynllun cadw swyddi.

“Dywed GMB y dylid atal cwmnïau sy’n cymryd arian y llywodraeth trwy’r Cynllun Cadw Swyddi rhag cyhoeddi colli swyddi am o leiaf flwyddyn.”