Gallai Llywodraeth Cymru gynyddu’r dirwyon am dorri’r cyfyngiadau cloi, meddai’r Prif Weinidog, yn dilyn adroddiadau am ymwelwyr o Loegr yn torri’r cyfyngiadau ar deithio

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn trafod â’r pedwar heddlu yng Nghymru ar ôl i ddau Gomisiynydd Heddlu a Throsedd alw am ddirwyon mwy am dorri’r gwaharddiad ar deithio nad yw’n hanfodol.

Heddiw (18 Mai), dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pedwar o bobl eraill wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan fynd â chyfanswm Cymru i 1,207, tra bod 101 o brofion cadarnhaol newydd wedi dod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 12,404, er bod y gwir ffigur yn debygol o fod tipyn yn uwch.

Annerbyniol

Tynnodd Mr Drakeford sylw at enghreifftiau o bobl yn anwybyddu rheolau dros y penwythnos, gan gynnwys teulu o bedwar o Birmingham yn dringo Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog, a gyrrwr yn dod o Ddyfnaint i Aberhonddu i brynu bwyd ci.

Dywedodd Mr Drakeford: “Mae [hyn i gyd] yn annerbyniol, fel y mae’n annerbyniol i bobl sy’n byw yng Nghymru deithio’n bell i rannau eraill o Gymru.

“Mae ein neges yn syml: arhoswch adre’ ac arhoswch yn lleol er mwyn achub bywydau.

Dywedodd hefyd wrth y cyfarfod briffio dyddiol ei fod yn “bryderus iawn” am adroddiadau o ymosodiadau ar heddweision, gan gynnwys peswch atynt a phoeri arnynt.

“Rydym yn parhau i drafod gyda Phrif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am lefel y dirwyon yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i ni, y byddwn yn ei hystyried yn awr.

“Os yw’r dystiolaeth honno’n dangos bod problem y gellir ei datrys drwy godi lefel y dirwyon, yna wrth gwrs rydym yn barod i drafod hynny.”

Adroddiadau’r penwythnos

Mae dirwyon yng Nghymru yn dechrau ar £60, gan fynd i fyny i £120 am droseddu fwy nag unwaith, ond gellir eu gostwng i £30 os telir o fewn 14 diwrnod.

Yn Lloegr, mae dirwyon yn dechrau ar £100, gan ostwng i £50 os cânt eu talu’n brydlon, a gallant fod cymaint â £3,200 i bobl sy’n troseddu sawl gwaith.

Ymhlith yr adroddiadau eraill dros y penwythnos roedd: heddweision yn Sir Benfro yn stopio fan yn gyda thri o bobl o Fryste yn teithio i’r traeth, a fan a stopiwyd yn Llanteg ar ôl teithio 200 milltir o Wokingham yn Berkshire.

Daw hyn ar ôl i’r rheolau gael eu llacio yn Lloegr tra bod y rheolau llymach yn parhau mewn grym yng Nghymru.

Er gwaethaf yr adroddiadau, dywedodd Mr Drakeford fod y traffig ar ffyrdd Cymru “yn llawer is” na lefelau’r llynedd, a bod nifer y dirwyon a roddwyd yr wythnos ddiwethaf yn hanner yr hyn a roddwyd dros yr ŵyl banc ddiweddaraf.

Platfform ar-lein

Pan ofynnwyd iddo am benderfyniad Cymru i gael gwared ar blatfform ar-lein i weithwyr allweddol archebu profion coronafeirws, a hynny er mwyn defnyddio system y Deyrnas Unedig gyfan, dywedodd Mr Drakeford mai’r rheswm oedd bod “problemau data” gyda system y Deyrnas Unedig, a fyddai wedi golygu na fyddai’r GIG yng Nghymru wedi cael gwybod am y canlyniadau, bellach wedi’u datrys.

Credir bod tua 1,000 o bobl wedi cael pecynnau profi o Loegr cyn i’r materion data gael eu cywiro, sy’n golygu na fydd y rheiny wedi’u cofnodi ar system y GIG yng Nghymru, meddai Mr Drakeford.

“Yn union sut y digwyddodd hynny, dydw i ddim yn sicr, oherwydd nid dyna sut yr oedd y system i fod i weithredu. Mi fydd y bobl hynny wedi cael, rwy’n credu, y canlyniadau i’r profion hynny eu hunain,” meddai.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd ganddo ffigur ar gyfer faint o arian oedd eisoes wedi’i wario ar system Cymru.

Plaid Cymru’n galw am ymchwiliad

Hefyd, gwadodd Mr Drakeford iddo fod yn araf yn ymestyn polisi profion Cymru i bob cartref gofal p’un a fu achosion ai peidio, gyda Phlaid Cymru yn galw am ymchwiliad i ganfod pam na chafodd y penderfyniad ei wneud yn gynt.

Dywedodd Mr Drakeford: “Mae llywodraethau’n gweithredu ar sail cyngor. Nid yw gweinidogion yn tynnu polisïau allan o’r awyr – maent yn dibynnu ar y cyngor a roddir i ni.

“Newidiodd y cyngor ddydd Iau, gwnaethom y penderfyniad ddydd Gwener, ac fe’i cyhoeddwyd gennym ddydd Sadwrn. Dydw i ddim yn credu y gall unrhyw un ddweud ein bod yn araf i ddilyn y cyngor.”

Pan ofynnwyd iddo egluro beth oedd wedi newid yn y cyngor gwyddonol a roddwyd iddo, dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn credu y gallai “helpu llawer mwy i egluro’r cyngor”, gan ychwanegu: “Nid fy ngwaith i fel [Prif Weinidog] yw ceisio gwneud fy hun yn arbenigwr gwyddonol. Fy ngwaith i yw gweithredu ar y cyngor gwyddonol y mae arbenigwyr yn ei roi i ni.”