Bydd pob un o’r chwe chwrs golff yng Ngheredigion yn parhau ar gau tan Fehefin 1.

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i glybiau golff ailagor roedd clybiau golff yng Ngheredigion wedi bwriadu ail agor ddydd Llun (18 Mai).

Ond ar ôl rhannu negeseuon ar gyfrifon cymdeithasol yn croesawu aelodau yn ôl i’r clybiau bu rhaid i’r clybiau golff wneud tro pedol dros y penwythnos.

Mae’r clybiau golff hyn yn cynnwys Clwb Golff Aberystwyth, Clwb Golff Borth ac Ynyslas, Clwb Golff Cilgwyn, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Clwb Golff Penrhos, a Chlwb Golff Aberteifi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi diolch i’r clybiau golff am eu cydweithrediad er mwyn lleihau unrhyw deithio diangen yn y sir dros y bythefnos nesaf.

Siomedig

Mewn datganiad dywedodd Clwb Golff Aberystwyth:  “Hoffem ddiolch i’r Cyngor Sir am eu gwaith i’n hamddiffyn rhag COVID-19.

“Er bod hyn yn siomedig i’n haelodau a’n ffrindiau, diolchwn ichi am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.”

Ategwyd yr un neges gan Glwb Golff Borth ac Ynys Las: “Cynghorwyd ni gan Gyngor Ceredigion a Heddlu Dyfed Powys i beidio agor tan fis Mehefin oherwydd bod disgwyl mwy o draffig i’r ardal dros y bythefnos nesaf gyda myfyrwyr hefyd yn dychwelyd i’r sir i nôl eu heiddo o neuaddau preswylio.”

Ymwelwyr Gŵyl y Banc yn bryder i’r cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n rhaid i ni ddal ati i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yma, gan weithio gyda’n gilydd i aros adref ac achub bywydau.

“Mae gan Geredigion un o’r canrannau uchaf o boblogaeth hŷn, ac mae 2,500 o bobol yn y sir wedi’u hychwanegu i restr gwarchod y Llywodraeth. Felly, mae’r awydd i deithio yn ystod penwythnos gŵyl y banc ar ddiwedd y mis yn peri pryder arbennig i ni.”

“Mae’r cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru, yn wahanol i Loegr lle mae’r cyfyngiadau teithio wedi cael eu llacio, ac mae Ceredigion eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n mentro i’r sir i fwynhau ein cefn gwlad a’n traethau lleol.”

Adroddwyd gan y Cyngor Sir yn wreiddiol y dylai Ceredigion baratoi ar gyfer 60,000 o achosion a 600 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws.

Hyd yma, Ceredigion yw’r ardal sydd wedi ei heffeithio lleiaf arni yng Nghymru gyda 39 o achosion o’r feirws.