Mae heddluoedd ar draws Cymru yn parhau i geisio atal pobl rhag herio cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru sy’n galw ar bobl i aros gartref.

Cafodd teulu o Birmingham ddirwy a’u hanfon adref ar ôl cael eu dal gan yr heddlu yn dringo mynydd Pen y Fan fore Sul (Mai 17).

Roedd swyddogion plismona’r ffyrdd yn Aberhonddu wedi gweld y teulu yn cerdded lawr y mynydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar lwybr troed sydd wedi cau.

“Byddwch yn gyfrifol”

Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys bod y digwyddiad yn “un o nifer o esiamplau unwaith eto o bobl yn teithio filltiroedd i ddod i ardaloedd yng Nghymru.”

Ychwanegodd bod gan ardal heddlu Dyfed Powys y nifer isaf o achosion o Covid-19 yng Nghymru a’u bod yn awyddus i ddiogelu hynny.

“Plîs byddwch yn gyfrifol,” meddai.

Yng Ngheredigion roedd yr heddlu wedi stopio car oedd wedi gwneud taith o 400 milltir o Lundain ac yn ôl fel bod y gyrrwr yn gallu mynd i weld ei gariad.

Cafodd y gyrrwr ei anfon yn ôl i Lundain a chafodd y digwyddiad ei gofnodi am dorri’r cyfyngiadau llym sydd mewn lle.

Yn Sir Gaerfyrddin cafodd camper fan oedd yn teithio o ardal Caint ei stopio yn Llanybydder. Cafodd y gyrrwr ddirwy a’i gynghori i ddychwelyd i Gaint.

Ac yn dilyn pryderon ymhlith trigolion yn Y Bala ddydd Sul, cafodd tri cherbyd yn cynnwys naw o ddynion eu hanfon yn ôl i ardal Manceinion gan Heddlu’r Gogledd am dorri’r rheoliadau.

Llacio yn Lloegr

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi llacio’r cyfyngiadau teithio yn Lloegr – er nad yw’r rheolau wedi newid yng Nghymru.

Yn Lloegr, mae modd i bobol “yrru i lefydd eraill” a chwrdd ag un person o’r tu allan i’w cartrefi.

Ond mae pobol yng Nghymru yn dal i gael eu rhybuddio i aros gartref ac aros yn lleol er mwyn gwneud ymarfer corff.