Mae Vaughan Gething wedi cwestiynu pam fyddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio portal ar-lein gwahanol i gynnal profion yng Nghymru pan fo gan Brydain system sydd eisoes wedi cael ei datblygu – ac wedi dweud nad oes “ots” faint gafodd ei wario ar y system cyn cefnu arni.
Daw ei gyfiawnhad ar ôl i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’w system ar-lein i drefnu cael prawf.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio ag Amazon i ddatblygu portal newydd a’i dreialu yn y de-ddwyrain, a hynny yn dilyn pryderon cychwynnol am y system Brydeinig.
Ond nawr fod y problemau wedi cael eu datrys, mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud na fyddai diben parhau i ddefnyddio arbrawf Cymreig.
‘Peth hyder’
Yn ôl Vaughan Gething, fu’n siarad ar raglen ‘Politics Wales’ y BBC, gall pobol fod yn hyderus erbyn hyn fod y system Brydeinig o drefnu profion yn gweithio’n iawn.
“Ar y dechrau, doedden ni ddim yn gallu manteisio’n iawn ar raglen brofi’r Deyrnas Unedig oherwydd bydden ni ond yn gallu gwybod a oedd rhywun wedi cael prawf – doedd y wybodaeth arall ddim yn dod yn ôl i mewn i’n system iechyd a gofal, felly roedd y gwerth yn gyfyng iawn,” meddai.
“Nawr, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae’r problemau data hynny, y rhai sy’n gwneud gwahaniaeth, yn mynd i gael eu datrys.
“Dyna pam fod gen i beth hyder am gymryd rhan yn system brofi’r Deyrnas Unedig.
“Felly bydd y canlyniadau’n mynd yn ôl ar gofnodion y claf, fe fydd clinigwyr yn gallu eu gweld nhw a’u defnyddio nhw.
“Mae hynny’n bwysig iawn i ni oherwydd, er ein bod ni’n datblygu ein trywydd ein hunain, gallwn ni gael dull cyffredin nawr ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig gyda gwybodaeth yn dod yn ôl aton ni.
“Gallwn ni ddefnyddio union yr un portal.
“A’r cwestiwn yn hynny o beth, nawr y gallwn ni wneud hynny, yw pam fydden ni’n parhau i ddatblygu a gweithredu portal ar-lein gwahanol yma yng Nghymru?”
Dydy Vaughan Gething ddim wedi cadarnhau faint o arian gafodd ei wario ar ddatblygu’r system Gymreig ar y cyd ag Amazon ac nad oedd “ots” ganddo fe