Mae pobol o Loegr yn dal i deithio i Gymru, ar ôl i Boris Johnson lacio’r cyfyngiadau teithio – er nad yw’r rheolau wedi newid yng Nghymru.

Yn Lloegr, mae modd i bobol “yrru i lefydd eraill” a chwrdd ag un person o’r tu allan i’w cartrefi.

Ond mae pobol yng Nghymru dal i gael eu rhybuddio i aros gartref ac aros yn lleol er mwyn gwneud ymarfer corff.

Mae’r heddlu wedi bod allan dros y penwythnos yn gwarchod traethau, ardaloedd arfordirol a llefydd cyhoeddus eraill.

Nifer o achosion

Yn Sir Benfro, cafodd fan Transit ei stopio ar ôl teithio o Fryste, ac fe ddywedodd y tri pherson eu bod nhw’n mynd i’r traeth, ac roedd ganddyn nhw offer gwersylla yn y cerbyd.

Cafodd y cerbyd ei anfon adref.

Ac fe gafodd Nissan Navara ei stopio yn Llanteg ar ôl teithio 200 milltir o Wokingham yn Berkshire.

Doedd ganddyn nhw ddim rheswm am deithio, yn ôl yr heddlu.

Cafodd pedwar o bobol eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys, oedd hefyd wedi adrodd am 12 digwyddiad i gyd, a 26 o bobol wedi cael eu riportio am deithio heb fod angen.

Yn ardal Heddlu’r De, cafodd modurwr ei stopio ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl bod yn teithio ar gyflymdra o 140 milltir yr awr, ac roedd canabis yn ei gorff.

Gall yr heddlu roi dirwyon sefydlog o £60, ond gall hynny godi i £120 os ydyn nhw wedi derbyn dirwy am yr un drosedd o’r blaen.

Gall yr heddlu ddwyn achos yn erbyn unrhyw un sy’n gwrthod talu dirwy, a gall dirwyon godi eto.