Fe fydd pawb mewn cartrefi gofal yng Nghymru’n cael eu profi ar gyfer y coronafeirws yn dilyn cyngor gwyddonol newydd.

Daw’r cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Mae’r cam hwn yn datblygu ar y polisi blaenorol o gynnal profion mewn cartrefi lle’r oedd achosion o’r feirws.

Fe fydd modd i gartrefi lle na fu cadarnhad o unrhyw achosion archebu profion ar-lein ar gyfer preswyliaid a staff.

Bydd y cam newydd hwn yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â’r mesurau presennol, sef:

  • profi preswyliaid a staff cartrefi gofal lle’r oedd achosion cyn Mai sydd heb eu datrys
  • profi preswyliaid a staff cartrefi gofal sy’n adrodd am achosion newydd
  • profi preswyliaid a staff cartrefi gofal â mwy na 50 o wlâu
  • profi unrhyw unigolyn sy’n gadael yr ysbyty i fewn mewn cartref gofal
  • profi pawb sy’n symud o un cartref gofal i’r llall neu sy’n cael eu derbyn i gartref gofal o’r gymuned

“Mae sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r coronafeirws yn newid o hyd wrth i ni dderbyn mwy o dystiolaeth a chyngor gwyddonol,” meddai Vaughan Gething.

“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn yn ein dull mai diben ein strategaeth yw lleihau niwed yn gyntaf ac y byddwn ni’n addasu polisïau er mwyn gwneud hyn.

“Mae heddiw’n newid yn y modd y byddwn ni’n profi mewn cartrefi gofal, gan addasu ein polisi fel bod yr holl breswyliaid a staff yn gallu cael eu profi ar gyfer y coronafeirws.

“Gobeithio bod hyn yn dod â rhagor o sicrwydd i’r sawl sy’n byw a gweithio mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd.”