Mae dyn wedi marw yn dilyn tân ger Corwen neithiwr (nos Wener, Mai 15).

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Fryneglwys yn dilyn adroddiadau o dân mewn eiddo yno.

Fe fu timau o Gorwen a Wrecsam ar y safle, a bu’n rhaid defnyddio cyfarpar anadlu.

Cafwyd hyd i gorff y dyn, oedd yn ei 60au, yn yr adeilad.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân, ac mae tîm o Ruthun yn dal ar y safle.