Bydd prifysgolion Cymru yn wynebu “bygythiad difrifol” os na ddaw cymorth ariannol mewn ymateb i’r argyfwng coronafeirws.
Dyna mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Covid-19 a’r Sector Addysg Uwch yng Nghymru yn ei rybuddio.
Mae awduron y ddogfen yn amcangyfrif y gallai prifysgolion Cymru golli rhwng £100m a £140m yn 2020-21 – a hynny o incwm ffioedd yn unig.
Ac mae’n rhybuddio y byddan nhw mewn trybini yn ariannol os na ddaw arian gan Lywodraeth Cymru ac/neu Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Ystyried yn ofalus”
“Bydd llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan yn ystyried yn ofalus pa sectorau sydd angen y cymorth ychwanegol mwyaf brys er mwyn gwrthsefyll effeithiau’r pandemig,” meddai awdur yr adroddiad, Cian Siôn.
“Gobeithiwn fod y canfyddiadau hyn yn egluro pwysigrwydd y sector Addysg Uwch i economi Cymru a heb ryw fath o becyn cymorth wedi ei deilwra, fe all fod yna fygythiad ariannol difrifol i’r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru.”