Mae adolygiad annibynnol wedi dod i’r casgliad bod Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal digon o ymchwiliadau.

Fe gafodd yr adolygaid ei gynnal gan Rhianwen Roberts sy’n ddarlithydd yn y Gyfraith, yn gyn-arbenigydd annibynnol pwnc y gyfraith i Lywodraeth Cymru, a chyn-arbenigydd annibynnol y Deyrnas Unedig ar bolisi cyfreithiol mewn astudiaethau y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith.

Cafodd yr adolygiad ei lansio wedi i Gymdeithas yr Iaith gwyno fod Aled Roberts wedi cynnal llai o ymchwiliadau na’i ragflaenydd i gwynion iaith.

Bellach mae adroddiad wedi ei gyhoeddi sydd yn nodi bod Aled Roberts yn gweithredu o fewn y gyfraith, a bod nifer yr ymchwiliadau ddim yn rhy isel.

“Rwyf yn croesawu adroddiad yr adolygiad annibynnol sydd wedi dod i’r casgliad fy mod yn gweithredu’n briodol,” meddai Aled Roberts.

“O ran y gŵyn ei hun, byddaf yn cwrdd efo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr wythnosau nesaf er mwyn trafod yr adroddiad yn llawn,” meddai wedyn.

Casgliadau

Mae’r adroddiad yn dweud bod nifer anarferol o uchel o ymchwiliadau wedi’u cynnal yn 2018, a bod niferoedd 2019 yn edrych yn isel oherwydd hynny.

Mae’r ddogfen hefyd yn dod i’r casgliad nad yw Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith yn deall darpariaeth y gyfraith yn Mesur y Gymraeg yn llawn.

Hefyd mae’r adroddiad yn dadlau bod cynnal “ymchwiliadau anghymesur” yn tynnu oddi ar allu’r Comisiynydd i “weithredu yn effeithiol ac effeithlon i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg”.

Dylai Comisiynydd y Gymraeg osod rhagor o fanylion ar ei wefan, yn ôl y ddogfen, fel bod y cyhoedd yn medru gweld beth sydd yn deilwng o ymchwiliad.

“Gwyngalchu ymddygiad y Comisiynydd”

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod yr adroddiad gan Rhianwen Roberts yn “ymdrech i wyngalchu ymddygiad y Comisiynydd”.

Ychwanegodd  Bethan Ruth fod yr adroddiad “wedi’i gomisiynu gan y Comisiynydd ei hunan” ac “yn dangos tuedd amlwg – un enghraifft yw diystyru’r honiad nad yw Aled Roberts yn cynnal digon o ymchwiliadau drwy awgrymu mai Meri Huws oedd yn cynnal gormod, casgliad sy’n gofyn am dipyn o ddychymyg.

“Mae’n drueni mawr bod y Comisiynydd newydd yn canolbwyntio ei egni ar amddiffyn ei record wael yn hytrach nag amddiffyn hawliau iaith pobl Cymru.”

Ychwanegodd Bethan Ruth: “Rydyn ni’n rhyfeddu bod y Comisiynydd wedi penderfynu rhyddhau’r adroddiad yma i’r Wasg heddiw cyn i’r broses ddod i ben. O ystyried mai dim ond un cam yn y broses yw hyn, mae’n amhriodol i’r Comisiynydd ryddhau’r adroddiad. Mae hyn yn gamgymeriad gan y Comisiynydd, a byddwn ni’n apelio yn erbyn y dyfarniad.”