Mae Llywodraeth Cymru wedi taflu ychydig yn rhagor o oleuni ar sut y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio yng Nghymru.

Mewn cynhadledd i’r Wasg y prynhawn yma tynnodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, sylw at sustem ‘goleuadau traffig’.

Yn ei hanfod bydd yna gamau gwahanol, gyda’r cyfyngiadau ar eu hysgafnaf dan ‘olau gwyrdd’, ond ar eu llymaf dan ‘gyfyngiadau caeth’.

Mae’n bosib y bydd sawl ‘lliw’ mewn grym ar yr un pryd – hynny yw, gall ysgolion fod dan ‘olau gwyrdd’ tra bod siopau dan ‘olau oren’.

Roedd Mark Drakeford eisoes wedi crybwyll y fath sustem yn y gorffennol. Does dim amserlen wedi’i gynnig am y llacio.

Penderfyniadau

Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio nad “y gair olaf” yw cyhoeddi’r cynllun yma, ond “rhan o sgwrs sy’n parhau”. Ac mae am glywed barn y cyhoedd am y cynlluniau.

Bydd penderfyniadau am y camau yn nwylo’r Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru.

Bydd Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn gyfrifol am benderfynu.

Y ‘goleuadau traffig’

  • Cyfyngiadau caeth – Ysgolion ar agor i ddisgyblion sy’ mewn perygl o niwed a phlant gweithwyr allweddol yn unig. Cynghori pobl i aros gartref, gan adael y tŷ dim ond ar gyfer teithio hanfodol a gweithio gartref os yw hynny’n bosib.
  • Coch – Galluogi ysgolion i reoli’r cynnydd mewn galw gan fwy o weithwyr allweddol a disgyblion agored i niwed yn dychwelyd; caniatáu teithio lleol, gan gynnwys ar gyfer manwerthu clicio-a-chasglu; pobl yn cael darparu neu dderbyn gofal a chymorth i/gan aelod o’r teulu neu ffrind o’r tu allan i’r cartref.
  • Oren – Grwpiau o ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol fesul camau; caniatáu teithio ar gyfer hamdden a hefyd cyfarfod grwpiau bychain o deulu neu ffrindiau ar gyfer ymarfer corff; pobl yn gallu cael at fannau manwerthu a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol; mwy o bobl yn teithio i’r gwaith.
  • Gwyrdd – Pob plentyn a myfyriwr yn cael addysg; teithio digyfyngiad yn amodol ar gamau diogelu parhaus; caniatáu pob gweithgaredd chwaraeon, hamdden a diwylliannol, a hefyd cymdeithasu gyda ffrindiau, gan gadw pellter corfforol.