Mae pobol y canolbarth yn “bryderus iawn” am y ffaith bod rheolau covid-19 wedi’u llacio yn Lloegr, yn ôl cynghorydd lleol.

Er bod rheolau’n parhau yn weddol lym yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; mae pobol dros Glawdd Offa bellach ond yn gorfod “cadw’n wyliadwrus” (term Llywodraeth San Steffan).

Mae cryn ddyfalu y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ymweliadau i Gymru, a dyma fydd y penwythnos cyntaf â’r newidiadau yna mewn grym.

Yn ôl Elwyn Vaughan, Cynghorydd Cyngor Powys tros ward Glantwymyn (yng ngogledd y sir), mae’r bobol mae e’n eu cynrychioli yn ofidus tu hwnt.

“Mae’n dywydd braf,” meddai. “Maen nhw’n addo y bydd yn gwella dros y penwythnos. Ac felly yn amlwg [mae pobol] yn bryderus.

“Rydym ni ers y dechrau un wedi cael pobol yn ymweld â llefydd fel Pennal, Llanbrynmair, ac yn y blaen – i’w tai haf. Dydy Amwythig ddim yn bell iawn.

“Ac ar ôl sylwadau ein hannwyl gyfaill, Aelod Seneddol Amwythig, diwrnod o’r blaen; mae pobol efo rheswm i bryderu.”

Cyfeirio mae’r cynghorydd Plaid Cymru at sylwadau’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Daniel Kawczynski – mi alwodd yr wythnos hon am ddiddymu Senedd Cymru.

Taclo’r tai haf

Mae Elwyn Vaughan eisoes wedi codi pryderon am sefyllfa tai haf Cymru yng nghyd-destun coronafeirws.

Ac er bod Llywodraeth Cymru bellach wedi llymhau’r drefn – mae’n anoddach erbyn hyn i berchnogion ail gartrefi hawlio grantiau i fusnesau – nid yw’n gwbl fodlon.

“Mae’n well nag oedd – yn ddi-os,” meddai. “Ond mae dal ychydig bach yn hap a damwain. Beth mae yn amlygu ydy ar ôl y feirws yma bod yn rhaid eistedd lawr go iawn a thaclo hyn yn iawn.

“Mae nifer ohonom ni wedi pregethu ers blynyddoedd bod eisiau cau’r bwlch yma. Mae hyn yn wir yng Nghymru a Lloegr. Ac yn anffodus dydy gwleidyddion yng Nghaerdydd, nac yn Llundain, wedi taclo’r peth.

“Mae eisiau gwneud hynny. Ac yna fyddwn ni ddim yn wynebu’r her a’r nonsens rydym wedi ei wynebu yn y cyfnod yma byth eto.”