Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud heddiw (dydd Iau, 14 Mai) fod 128 o bobl ychwanegol wedi profi’n bositif am Covid-19, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 11,834, a bod 10 yn rhagor wedi marw, gan ddod â’r cyfanswm hwnnw i 1,164.

Dywedodd Dr Robin Howe, o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu ein gallu i brofi, ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydyn ni wedi mwy na dyblu ein capasiti i 5,330 o brofion y dydd yng Nghymru.

“Rydym yn gwybod bod mwy i’w wneud wrth i’r galw gynyddu, a byddwn yn parhau i gynyddu’r capasiti hwn.

“Er yr ymddengys ein bod wedi pasio uchafbwynt achosion newydd yng Nghymru, mae Covid-19 yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o’r wlad.

“Yr un cam pwysicaf y gall pob un ohonom ei gymryd wrth ymladd y firws yw aros gartref, a diolchwn i bawb ledled Cymru am wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y firws.”

Niferoedd yn parhau i ddisgyn

Mae nifer y bobl â’r coronafeirws sy’n cael eu trin gan y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i ddisgyn, meddai Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, yn sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru.

Nodwyd bod 581 o bobl â’r coronafeirws yn yr ysbyty, gyda 298 o achosion eraill y tybir eu bod yn achosion o’r coronafeirws. Mae hyn yn is na’r wythnos ddiwethaf, a dyma’r nifer isaf o gleifion Covid mewn ysbytai ers dechrau mis Ebrill.

“Rydym wedi gweld sefydlogi a lleihau o ran achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau,” meddai Dr Goodall. “Ond mae [y niferoedd] hyn yn dal i fod yn gyfwerth â thri o’n hysbytai yn llawn pobl â’r coronafeirws”.

Uchafbwynt arall?

Rhybuddiodd Dr Goodall bod gwir bosibilrwydd o weld “uchafbwynt arall” a’i bod yn bosib y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru “gymryd ambell gam yn ôl” ac ailgyflwyno’r mesurau cloi yn y dyfodol.

Mae cyfanswm o 66 o bobl yn cael eu trin mewn gofal dwys am y feirws. Mae hyn, hefyd, yn is na’r wythnos ddiwethaf a mwy na 60% yn is na’r uchafbwynt a welwyd ym mis Ebrill.