Caiff ‘map ffordd’ ar gyfer dod allan o’r cyfyngiadau coronafeirws ei gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos, meddai’r Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford wrth Aelodau’r Senedd fod y cynllun ar y gweill a bod angen sicrhau bod cyhoedd Cymru yn ei “ddeall yn rhwydd”.

Roedd yn ateb cwestiynau gan Paul Davies AS, Arweinwyr y Ceidwadwyr, ynghylch a fyddai’r cyngor gwyddonol sy’n sail i’r cynllun yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y cyfarfod llawn: “Rwy’n falch iawn y byddwn yn cyhoeddi’r cyngor gwyddonol a thechnegol.

“Rwy’n cytuno’n llwyr â Paul Davies ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld y dystiolaeth sylfaenol yr ydym yn ei defnyddio wrth wneud y penderfyniadau heriol hyn.

“Fy ngobaith yw y byddwn yn gallu gwneud ein cynllun yn gyhoeddus ddydd Gwener yr wythnos hon.

“Rwyf am iddo fod yn glir ac rwyf am i’r cyhoedd allu ei ddeall yn rhwydd.”

“Felly, dyna yw fy uchelgais – y byddwn yn ei gyhoeddi ddydd Gwener ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwneud yr hyn y cyfeiriodd Paul Davies ato: helpu ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru i fod yn glir am gynlluniau Llywodraeth Cymru ac i ddeall ar ba sail y maent yn cael eu llunio.”

Cafodd Mr Drakeford ei holi hefyd am y “dryswch” ynghylch y rheoliadau cloi yng Nghymru.

“Yma yng Nghymru, rydym yn annog pobl i aros adref,” meddai Mr Drakeford.

“Dyna’r ffordd orau i helpu ein gilydd i oresgyn yr argyfwng hwn.

“Ond mae pobl nawr yn cael gadael eu cartrefi fwy nag unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff, ac os mai eich ffordd chi o wneud ymarfer corff yw cerdded o’ch cartref i afon ac eistedd yno, nid yn agos at bobl eraill, ac i fynd i bysgota, yna caniateir hynny o fewn y rheolau yng Nghymru.

“Ond mae’n rhaid ei fod yn lleol a rhaid iddo gael ei wneud mewn ffordd sy’n glynu at [y rheolau] ymbellhau cymdeithasol.”

Dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn credu mewn dull “pedair cenedl” o fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws.

“Rydyn ni’n credu bod gennym ni ymagwedd pedair cenedl o hyd oherwydd bod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn symud i’r un cyfeiriad yn yr un ffordd ofalus,” ychwanegodd.