Mae Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arnyn nhw i stopio “drysu” pobl gan ddangos eu hysbysebion coronafeirws yng Nghymru.

Dywed Hywel Williams fod gan Loegr reolau a chanllawiau gwahanol i Gymru ac na ddylai’r hysbysebion am “aros yn wyliadwrus” gael eu dangos.

Mae Llywodraeth Cymru’n dal i ofyn i bobl i “aros gartref” a dyw’r polisi ddim yn caniatau teithio ar gyfer ymarfer corff na chyfarfod pobl o aelwydydd eraill.

Yn y llythyr, mae Hywel Williams yn cyhuddo nifer o Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fethu â bod yn glir bod eu newidiadau ddim ond yn berthnasol i Loegr.

“Yn ystod y rhai wythnosau diwethaf, mae yno sawl enghraifft siomedig wedi bod o Weinidogion y Llywodraeth yn gwneud cyhoeddiadau ar bolisi heb wneud eu hehanger tiriogaethol yn glir,” meddai’r llythyr.

“Mae hyn wedi achosi cymhlethdod i sawl unigolyn a busnesau yng Nghymru, sy’n cael ei brofi gan y nifer helaeth o e-byst rwyf i a fy nghydweithwyr wedi eu derbyn yn gofyn am eglurhad am beth sy’n berthnasol i Loegr a beth sy’n berthnasol i Gymru.”