Mae Heddlu’r De’n apelio am dystion ar ôl cyhoeddi mai Abigail Hussey, 27 oed o Benllergaer, yw’r ddynes fu farw ger yr M4 yn Abertawe fore ddoe (dydd Mawrth, Mai 12).

Cafodd yr heddlu wybod am oddeutu 4.30yb fod dynes ar y draffordd rhwng cyffordd 47 (Penllergaer) a chyffordd 48 (yr Hendy).

Aeth y gwasanaethau brys yno, ond bu farw Abigail Hussey yn y fan a’r lle, ac mae’r heddlu bellach yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal, yn benodol wrth bont lle’r oedd hi cyn y digwyddiad.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed am gar Citroen C4 lliw aur.

Mae teulu Abigail Hussey yn cael eu cefnogi gan yr heddlu.