Mae cwpwl o’r gogledd oedd wedi bod i Swydd Efrog i brynu carafán wedi cael eu hatal gan yr heddlu ar yr A55.

Prynodd y pâr y garafán a theithio mwy na 80 milltir i orllewin Swydd Efrog i’w chasglu.

Fodd bynnag, wrth iddyn nhw ddychwelyd adref,  torrodd y cerbyd i lawr ar yr A55.

Daeth yr heddlu ar draws y garafán a stopio i siarad â’r pâr.

Daeth i’r amlwg wedyn eu bod wedi gyrru’r garafán heb yswiriant, ac felly fe gymerodd y swyddogion y garafán oddi arnyn nhw.

Dirwyon

Mae’r heddlu wedi bod yn cynnal patrolau rheolaidd ar draws y gogledd i ddal y rhai sy’n anwybyddu gwarchae’r coronafeirws.

Gall yr heddlu roi £60 o ddirwyon i unigolion os nad ydyn nhw’n cydymffurfio ar ôl i swyddogion siarad â nhw, egluro’r risgiau i iechyd y cyhoedd ac annog cydymffurfiaeth wirfoddol.

Mae dirwyon yn Lloegr yn cynyddu o £60 i £100 o ddydd Mercher ymlaen (Mai 13)

Mewn rheolau newydd sydd wedi’u cyhoeddi gan Boris Johnson, gall troseddwyr sydd yn aildroseddu weld eu dirwyon yn dyblu bob tro i uchafswm o £3,200.

Fodd bynnag, dywed Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw’n bwriadu newid y gosb ar hyn o bryd.