Roedd cyhoeddiad Boris Johnson nos Sul (Mai 10) am lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr yn “ddryslyd ac yn beryglus”, meddai arweinydd Plaid Cymru.

Fe gyhoeddodd Boris Johnson neithiwr y byddai’r slogan “arhoswch adref” yn newid i “arhoswch yn wyliadwrus”.

Ond dywedodd arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon nad oedd Boris Johnson wedi ymgynghori gyda nhw am newid y neges “arhoswch adref” a bod eu neges nhw yn aros yr un fath.

Mae hyn wedi arwain at feirniadaeth bod neges Boris Johnson yn “ddryslyd” ac mae busnesau, undebau a’r heddlu wedi galw am eglurder.

“Mae Boris Johnson yn honni ei fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i gyd ond mae wedi ymddwyn heno fel Prif Weinidog Lloegr – ac nid un cyfrifol chwaith.

“Mae ei neges yn ddryslyd ac yn beryglus. Fedrwch chi ddim aros yn wyliadwrus o rywbeth na allwch chi weld.”

“Trychinebus”

Aeth ymlaen i ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “torri’n rhydd” o’r ymgyrch ar y cyd sy’n bodoli rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Does dim neges fwy clir na syml nag ‘arhoswch adref’,” meddai Adam Price gan ychwanegu y byddai llacio’r cyfyngiadau yn rhy gyflym yn “drychinebus” i Gymru.

“Dyma pam fod angen sicrhau deddfwriaeth ar gyfyngiadau teithio a lle mae pobl yn aros fel nad yw polisi Cymru yn cael ei danseilio gan San Steffan.

“Cafodd gormod o gamgymeriadau eu gwneud wrth gyflwyno’r cyfyngiadau yn rhy hwyr. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu fforddio gwneud rhagor o gamgymeriadau drwy godi’r cyfyngiadau yn rhy gyflym,” meddai.