Fe fydd pobl yn gallu ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd ac mae disgwyl i ganolfannau garddio ail-agor yng Nghymru ddydd Llun (Mai 11).

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai’r cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau am dair wythnos arall ond bod mân newidiadau yn cael eu gwneud.

Mae’r rhain yn cynnwys caniatáu i bobl ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd – ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny’n lleol, ac ni ddylen nhw deithio ymhell i wneud hynny.

Fe fydd canolfannau garddio hefyd yn cael ail-agor os yw’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

‘Dim newid i’r cyngor yng Nghymru’

Ond fe bwysleisiodd Mark Drakeford bod y neges “arhoswch adref” yn aros yr un fath yng Nghymru, er i Boris Johnson gyhoeddi slogan newydd “arhoswch yn wyliadwrus” yn ei gyhoeddiad nos Sul (Mai 10).

Eglurodd Mark Drakeford: “Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson wedi amlinellu’r mân newidiadau i’r cyfyngiadau yn Lloegr dros y tair wythnos nesaf.

“Yma yng Nghymru, bydd pobol yn cael ymarfer corff yn amlach a bydd canolfannau garddio yn cael ail agor, os gallant gydymffurfio â ymbellhau cymdeithasol.

“Nid yw ein cyngor wedi newid yng Nghymru.”

Ychwanegodd Mark Drakeford, “Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau, sy’n iawn i Gymru, gan ddefnyddio gwybodaeth a chyngor arbenigol am sut mae’r coronafeirws yn ymledu yma i’n cadw ni’n ddiogel.”

Ni fydd y newidiadau a ddaw i rym yng Nghymru heddiw yn berthnasol i’r 120,000 o bobl sy’n wynebu risg uchel yng Nghymru.

Y mesurau yng Nghymru

Daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Gwener (Mai 8) fod y cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru am dair wythnos eto.

Ond bydd tri newid yn dod i rym yng Nghymru heddiw (Mai 11).

  • Bydd pobol yn gallu gwneud ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd
  • Bydd canolfannau garddio’n cael agor eto gan ymbellháu’n gymdeithasol
  • Bydd awdurdodau lleol yn ystyried sut i agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu

Gwerth R

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif fod gwerth R, sef cyfartaledd unigolion a heintiwyd sy’n lledaenu’r feirws, tua 0.8. yng Nghymru.

Os yw gwerth R yn parhau i fod yn 0.8 dros y tri mis nesaf bydd tua 5,100 o achosion newydd yng Nghymru, 2,800 o bobol ychwanegol mewn ysbytai ac 800 o farwolaethau.

Dywedodd Mark Drakeford gallai cynnydd gwerth R i 1.1. achosi i’r nifer o bobol mewn ysbytai “gynyddu” ac y gallai nifer y marwolaethau o ganlyniad i’r firws godi i 7,200.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ail-gyflwyno’r cyfyngiadau gwreiddiol os yw’n ymddangos bod gwerth R yn cynyddu.

 Ffigurau yng Nghymru

 Ddydd Sul cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 1,111 o bobl wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, cynnydd o 12 ers dydd Sadwrn.

11,344 oedd nifer yr achosion o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru, sef cynnydd o 223 ar ffigurau dydd Sadwrn.

Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch o lawer.