Ymgyrchwyr Ysgol y Parc yn gynharach eleni
Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio achub Ysgol y Parc, ger y Bala, wedi anfon llythyr at gynghorwyr  Gwynedd yn galw arnyn nhw i ailystyried cynlluniau i gau’r ysgol.

Mae cynghrair o bron i hanner cant o ysgolion ac unigolion yn y sir wedi dod ynghyd er mwyn mynnu ymgynghoriad newydd ar ddyfodol Ysgol y Parc, oedd i fod i gael ei chau ym mis Medi 2012, yn ôl y cynlluniau gwreiddiol.

Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi clywed y bydd ei drysau’n agored hyd 2013 fan lleia’, wedi i gynlluniau ad-drefnu addysg yn ardal Ysgol y Berwyn, Bala, gael eu rhoi ar stop yn sgil newid polisi grantiau’r Llywodraeth – sydd nawr yn golygu y bydd yn rhaid i’r cyngor edrych eto ar eu cais am grant, a bod yn barod i gyfrannu 50% o’r gost, yn hytrach na 30%.

Yn sgil y penderfyniad diweddaraf gan y Cynulliad i ofyn am fwy o gyfraniad ariannol at y cynlluniau, mae’r Gynghrair yn dweud ei bod hi’n bryd ail-ystyried y cynlluniau – a fyddai, yn eu barn nhw, yn costio gormod i’r Cyngor, ac i’r gymuned.

‘Cost ariannol’

Yn ôl y llythyr, a arwyddwyd ar y cyd gan Ieuan Wyn, Myrddin ap Dafydd, Ffred Ffransis a Thomas Prys Jones, mae newid yn amodau cyllido’r cynlluniau, ynghyd â’r sefyllfa ariannol bresennol, yn golygu na all “neb wadu bellach nad yw’r gost ariannol o gau’r ysgol yn mynd i fod yn llawer iawn uwch na’r gost o’i chadw ar agor.”

Dywedodd Ieuan Wyn wrth Golwg 360 ei fod wedi ei siomi’n fawr yn y modd y mae Cyngor Gwynedd wedi anwybyddu dymuniadau pobol leol.

“Beth allwch chi ofyn yn fwy na chael cymuned sy’n ymroi i lwyddiant eu hysgol?” meddai.

“Dwi’n siomedig iawn yn y Cyngor Sir nad ydyn nhw wedi rhoi gwrandawiad teg i dystiolaeth bobol leol.”

Yn ôl Ieuan Wyn, mae Ysgol y Parc yn llwyddo i gynnal safonau addysgol uchel, yn cyfrannu at gynaladwyedd ieithyddol a diwylliannol, hynny’n cynnwys cymhathu plant o gartrefi di-Gymraeg, ac yn cyfrannu at gynaladwyedd cymunedol.

“Mae’r tri pheth yma’n ddigon o dystiolaeth fod Ysgol y Parc yn allweddol i ddyfodol yr ardal,” meddai wrth Golwg 360.

Mae hefyd yn dweud nad yw’r gymuned leol wedi derbyn “rhesymau digonol” dros gau’r ysgol. “Does dim tystiolaeth fod cau’r ysgol yn angenrheidiol,” meddai.

Mae’r Gynghrair nawr yn galw am ymgynghoriad newydd, a fyddai’n rhoi mwy o sylw i effeithiau cau’r ysgol ar y gymuned leol, yn ogystal â chost, ac ystyriaeth o nifer tebygol y disgyblion.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, dylai ymgynghoriad newydd fod yn anorfod, oherwydd bod y sefyllfa “wedi newid yn sylfaenol” ers i’r cyngor gyflwyno’r cais gwreiddiol i’r Llywodraeth, ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf.

Bwriadu bwrw ’mlaen

Ond mae Golwg 360 ar ddeall gan Gyngor Gwynedd heddiw fod cynlluniau i gau Ysgol y Parc yn mynd yn eu blaen heb ymgynghoriad o’r newydd, wrth i’r Cyngor baratoi at ail-gyflwyno’r cynllun am grant gan Lywodraeth Cymru i ad-drefnu ysgolion y dalgylch.

“Yn unol ag arweiniad newydd Llywodraeth Cymru, bydd Cyngor Gwynedd yn ail-gyflwyno bid i’r llywodraeth tuag at y cynllun £10.2 miliwn i ad-drefnu ysgolion dalgylch y Berwyn. Mae’r Cyngor yn disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf.”

Yn ôl y Cyngor, mae’r cynllun gwreiddiol ar gyfer ad-drefnu yn dal i sefyll, a bod “cyfnod o drafodaeth fanwl” eisoes wedi bod yn y dalgylch “ynghyd a’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd yn ystod Ionawr a Chwefror 2011.

Yn ôl yr hyn y mae Golwg 360 yn ei ddeall gan y Cyngor, newid dros dro oedd gwthio dyddiad cau Ysgol y Parc ymlaen i 2013, oherwydd yr “oedi” yn Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.