Mae pryder yn Eryri yn sgil adroddiadau gan wardeiniaid y Parc Cenedlaethol am gynnydd mewn traffig a niferoedd ymwelwyr dros y dyddiau diwethaf.

Mae Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol, Emyr Thomas, yn rhybuddio y bydd y wardeiniaid a’r heddlu ar eu gwyliadwriaeth drwy gydol y penwythnos gŵyl banc.

“Does dim newid wedi bod yng nghanllawiau a chyfyngiadau’r Llywodraeth, a dylai pobl ddal i aros adref ac osgoi teithio diangen,” meddai.

“Bydd gan ein wardeiniaid a’r heddlu bresenoldeb cadarn ar draws y Parc Cenedlaethol i sicrhau bod ein cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yn cael eu diogelu.

“Rydym eisiau diolch yn ddiffuant i’r mwyafrif llethol o bobl sy’n dal i’n helpu i atal lledaeniad y feirws wrth aros adref.”

Yr un oedd apêl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae ein neges ni’n glir – mae ein partneriaid yn y Parc Cenedlaethol wedi cau mynyddoedd prysuraf Eryri a does dim mynediad i neb am y tro. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cau eu canolfannau ymwelwyr, meysydd parcio, mannau chwarae a llwybrau beicio mynydd ac mae safleoedd Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gau.”